Darjeeling: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: pnb:دارجلنگ; cosmetic changes |
llun, manion |
||
Llinell 1:
[[Delwedd:Map_darjeeling.png|200px|bawd|Lleoliad Darjeeling yn India.]]
[[Brynfa]] (''hill-station'') 7,000' uwch lefel y môr, poblogaeth tua 75,000, wrth droed yr [[Himalaya]] ym mryniau [[Gorllewin Bengal]], gogledd-ddwyrain [[India]] yw '''Darjeeling'''; mae'n golygu hefyd hefyd y rhanbarth o'r un enw, ''Darjeeling District'', sy'n cynnwys tref Darjeeling ei hun, [[Kalimpong]], [[Kurseong]] a [[Siliguri]], gyda phoblogaeth o tua 1.4 miliwn (a'r mwyafrif yn byw yn Siliguri, wrth droed y bryniau).
Mae'r enw yn llygriad o'r enw [[Tibeteg]] ''Dorje-ling'' ("mangre'r taranfollt"). Mae mwyafrif y boblogaeth o dras Nepalaidd ac yn siarad [[Nepaleg]]. Ceir hefyd nifer sylweddol o [[ffoadur]]iaid [[Tibet]]aidd ynghyd â chanran isel o [[
== Hanes Darjeeling ==
=== Y cefndir ===
[[Delwedd:Tiger_Hill.JPG|
Hyd at ddechrau’r [[18fed ganrif]] yr oedd bryniau Darjeeling a Kalimpong yn rhan o [[Sikkim]]. Yn [[1706]] collodd Sikkim ardal Kalimpong i [[Bhutan]] ac yn [[1780]] cipiodd rheolwyr Gorkhaidd [[Nepal]] weddill y diriogaeth. Arweiniodd hyn at wrthdaro rhwng y [[Gorkha|Gorkhiaid]] a’r [[British East India Company]] a reolai [[Bengal]] ar y pryd. Ar ôl cyfres o fân ryfeloedd gorchfygwyd y Gorkhiaid a meddianwyd yr ardal i’r de o Darjeeling gan y Cwmni dan gytundeb â Sikkim a olygodd hefyd fod y [[Prydain|Prydeinwyr]] yn gwaranti [[sofraniaeth]] Sikkim ac yn cyfryngu rhwng y wlad honno a’i chymdogion.
Yn [[1828]] anfonwyd dau swyddog Prydeinig i asesu’r sefyllfa yn ardal Darjeeling. Awgrymodd y swyddogion y byddai Darjeeling yn safle ardderchog i godi iechydfa a brynfa, ar lun y rhai yr oedd y Prydeinwyr eisoes wedi’u sefydlu yn [[Shimla]], yn [[1819]], ac yn llefydd eraill yng ngogledd-orllewin India, lle gallai swyddogion y Cwmni a’u teuluoedd ddianc o dro i dro rhag gwres a lleithder Bengal. Ar sail adroddiad y swyddogion aeth yr awdurdodau yn [[Calcutta]] ati i berswadio
=== Prydain a Sikkim ===
[[Delwedd:31a Darjeeling Tempeleingang.JPG|250px|bawd|Y temlau ar Observatory Hill, Darjeeling.]]
Ofnai’r [[
Er bod pentref bach wedi bodoli yn Darjeeling cyn rhyfeloedd Sikkim â Nepal a Bhutan yn y ddeunawfed ganrif, pan ddaeth y Prydeinwyr yno dim ond [[mynachlog]] Dibetaidd oedd ar y bryn coediog, ar y copa a adweinir fel 'Observatory Hill' heddiw. Tyfodd Darjeeling yn gyflym. Agorwyd ffordd iddi yn [[1840]] ac erbyn [[1857]] roedd ganddi boblogaeth o ryw 10,000. Roedd llawer o’r bobl hyn yn [[Nepalwr|Nepalwyr]], o dras Gorkhaidd yn bennaf, a ddenwyd i weithio yn y gerddi te a oedd yn ymledu dros y bryniau. Erbyn heddiw mae’r rhan fwyaf o’r boblogaeth yn Nepalwyr a’r [[Nepaleg]] yw prif iaith y bryniau.
=== Gorkhaland ===
Llinell 20 ⟶ 21:
== Y "Trên Tegan" ==
[[Delwedd:DHR_780_on_Batasia_Loop_05-02-21_08.jpeg|
Mae'r trên bach sy'n cysylltu New Jalpaiguri a Darjeeling yn un o'r [[rheilffyrdd]] lled cyfyng enwocaf yn y byd. Fe'i adeiladwyd yn bennaf i gludo cynnyrch y gerddi te i Galcutta er mwyn ei allforio i Brydain ac [[Ewrop]] a hefyd i gael offer mecanyddol trwm i fyny i'r bryniau. Dechreuwyd y gwaith ar y rheilffordd yn [[1879]] ac yn [[1881]] stemiodd y trên bach cyntaf i mewn i orsaf Darjeeling. Roedd y gwaith yn golygu creu nifer fawr o ddoleni tynn a phontydd ac yn sialens aruthrol i'r peirianwyr, yn arbennig Dolen Batasia, 2 milltir o Darjeeling, lle mae'r trên yn gorfod rhedeg yn ei ôl fesul rhan o'r trac igam-ogam er mwyn ei ddringo. Erbyn heddiw mae'r rheilffordd a'i injans hynafol yn un o brif atyniadau twristaidd gogledd-ddwyrain India ond yn ogystal mae'n dal i wneud ei waith ymarferol yn cludo te i lawr i'r gwastadoedd a nwyddau i fyny i'r bryniau.
|