Darjeeling: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
llun, manion
Llinell 15:
Ofnai’r [[Tibetwyr]] fod [[Prydain]] yn ceisio meddianu Sikkim, a oedd yn [[deiliad|ddeiliad]] i Dibet, gyda’r bwriad o ymestyn eu dylanwad i Dibet ei hun. Ar sawl ystyr roeddent yn llygad eu lle canys dirywiodd economi [[Lhasa]] a dwyrain Tibet a dechreuodd cynnyrch rhad y [[te|gerddi te]] newydd yn Darjeeling ddisodli’r te drytach a oedd yn cael ei fewnforio i Dibet o [[Tseina]]. Roedd Sikkim ei hun yn rhanedig gyda [[plaid|phlaid]] ddylanwadol, a arweinwyd gan y [[prif weinidog]], yn ceisio rhwystro’r raja rhag ildio rhagor i’r Prydeinwyr. Pan arestiwyd y botanegydd [[Joseph Hooker]] a Dr Campbell, swyddog gweinyddol yn Darjeeling, gan y blaid wrth-Brydeinig wrth iddynt ymweld â Sikkim yn [[1849]] dan gytundeb rhwng y raja a’r Prydeinwyr gwaethygodd y sefyllfa. Ildiodd y Sikkimiaid i fygythion milwrol y Prydeinwyr, rhyddheuwyd y gwystlon a chyfeddianwyd yr hyn a oedd yn weddill o diriogaeth Sikkim i’r de o’i ffin bresennol. Cynddeiriogwyd y Tibetwyr, a ofnai gael eu gwasgu oddi ar y map gwleidyddol yn ysglyfaeth i’r [[Y Gêm Fawr|Gêm Fawr]] rhwng Prydain, [[Rwsia]] a Tseina am reolaeth yng [[Canolbarth Asia|Nghanolbarth Asia]], ac yn [[1886]] anfonodd Tibet gwmni o filwyr i Sikkim. Fe’u gorchfygwyd yn rhwydd gan gatrawd o filwyr Prydeinig a gorfodwyd y Tibetwyr i ildio ei hawl ar Sikkim gan y [[llu ymgyrch]] Prydeinig a anfonwyd i Lhasa yn [[1888]]. Parhaodd Darjeeling i ffynnu ac mae’n dal i gael ei rheoli o Calcutta heddiw, fel rhan o dalaith Gorllewin Bengal.
 
Er bod pentref bach wedi bodoli yn Darjeeling cyn rhyfeloedd Sikkim â Nepal a Bhutan yn y ddeunawfed ganrif, pan ddaeth y Prydeinwyr yno dim ond [[mynachlog]] Dibetaidd oedd ar y bryn coediog, ar y copa a adweinir fel 'Observatory Hill' heddiw. Tyfodd Darjeeling yn gyflym. Agorwyd ffordd iddi yn [[1840]] ac erbyn [[1857]] roedd ganddi boblogaeth o ryw 10,000. Roedd llawer o’r bobl hyn yn [[Nepalwr|Nepalwyr]], o dras Gorkhaidd yn bennaf, a ddenwyd i weithio yn y gerddi te a oedd yn ymledu dros y bryniau. Erbyn heddiw mae’r rhan fwyaf o’r boblogaeth yn Nepalwyr a’r [[Nepaleg]] yw prif iaith y bryniau.
 
=== Gorkhaland ===