Darjeeling: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 18:
 
=== Gorkhaland ===
Ar ôl [[annibyniaeth]] India cryfhaodd y teimlad fod [[llywodraeth]] bell Gorllewin Bengal yn gwahaniaethu yn erbyn y Gorkhiaid gan fod rhaid iddynt ddysgu [[Bengaleg]] i gael swyddi gan y llywodraeth ac nid oedd statws i’r Nepaleg o gwbl. Daeth pethau i’w pen yn yr [[1980]]au pan welwyd terfysg ar raddau mawr yn y bryniau. Collodd rhai cannoedd o bobl eu bywydau a bu’n rhaid i fyddin India symud i mewn i adfer rheolaeth. Y brif blaid y tu ôl i’r helyntion hyn oedd y [[Gorkha National Liberation Front]] (GNLF), dan arweiniad Subash Ghising, a oedd yn galw am sefydlu [[talaith]] [[ffederal]] annibynnol, o fewn India, danwrth yr enw [[Gorkhaland]]. Yr oedd [[Plaid Gomiwnyddol]] (Farcsaidd) India (CPI-M) yn gyfrifol am lawer iawn o’r trais hefyd. Yn dilyn trafodaethau â’r llywodraeth ganolog cytunwyd ar gyfaddawd a sefydlwyd y Darjeeling Gorkha Hill Council (DGHC) yn 1988. Erys Darjeeling yn rhan o Orllewin Bengal ond erbyn hyn mae’n mwynhau llawer mwy o reolaeth ar faterion lleol. Serch hynny mae’r ymgyrch i greu Gorkhaland yn parhau ac yn dominyddu bywyd gwleidyddol Darjeeling heddiw.
 
== Y "Trên Tegan" ==