Darjeeling: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 6:
== Hanes Darjeeling ==
=== Y cefndir ===
[[Delwedd:Tiger_Hill.JPG|200px250px|bawd|Golygfa dros '''Darjeeling''' gyda [[Kanchenjunga]] yn y cefndir, o Tiger Hill]]
Hyd at ddechrau’r [[18fed ganrif]] yr oedd bryniau Darjeeling a Kalimpong yn rhan o [[Sikkim]]. Yn [[1706]] collodd Sikkim ardal Kalimpong i [[Bhutan]] ac yn [[1780]] cipiodd rheolwyr Gorkhaidd [[Nepal]] weddill y diriogaeth. Arweiniodd hyn at wrthdaro rhwng y [[Gorkha|Gorkhiaid]] a’r [[British East India Company]] a reolai [[Bengal]] ar y pryd. Ar ôl cyfres o fân ryfeloedd gorchfygwyd y Gorkhiaid a meddianwyd yr ardal i’r de o Darjeeling gan y Cwmni dan gytundeb â Sikkim a olygodd hefyd fod y [[Prydain|Prydeinwyr]] yn gwaranti [[sofraniaeth]] Sikkim ac yn cyfryngu rhwng y wlad honno a’i chymdogion.
 
Yn [[1828]] anfonwyd dau swyddog Prydeinig i asesu’r sefyllfa yn ardal Darjeeling. Awgrymodd y swyddogion y byddai Darjeeling yn safle ardderchog i godi iechydfa a brynfa, ar lun y rhai yr oedd y Prydeinwyr eisoes wedi’u sefydlu yn [[Shimla]], yn [[1819]], ac yn llefydd eraill yng ngogledd-orllewin India, lle gallai swyddogion y Cwmni a’u teuluoedd ddianc o dro i dro rhag gwres a lleithder Bengal. Ar sail adroddiad y swyddogion aeth yr awdurdodau yn [[Calcutta]] ati i berswadio raja Sikkim i roi Darjeeling i’r Prydeinwyr yn gyfnewid am stipend flynyddol o 3000 Rupee (a godwyd i Rs 6000 yn [[1846]]). Yn ogystal â bod yn safle dymunol ar gyfer yr iechydfa byddai hynny'n rhoi cyfle i’r Prydeinwyr gadw golwg ar weithgareddau Nepal a Bhutan ac yn eu galluogi i reoli’r fasnach bwysig rhwng dwyrain India a [[Tibet|Thibet]].
 
=== Prydain a Sikkim ===