Brwydr Coed Llathen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Parhau
Llinell 2:
 
==Y Cefndir==
Am flynyddoedd cyn y frwydr roedd Llywelyn wedi bod yn brysur yn adfeddiannu tiroedd a gollwyd a derbyn gwrogaeth arglwyddi'r [[Deheubarth]] gan gynnwys [[Maredudd ap Rhys]] a [[Maredudd ap Owain]]. Fel tâl am eu teyrngarwch iddo, cyflwynodd diroedd iddyn nhw yn anrheg - tiroedd roedd wedi'u cymeryd oddi wrth [[Rhys Fychan]] a oedd yn deyrngar i [[Harri III, brenin Lloegr|Harri III, Brenin Lloegr]]. Roedd ei fab, sef y Tywysog [[Edward I of England|Edward]] wedi sylweddoli fod Llywelyn wedi cryfhau dros y blynyddoedd a chasglodd fyddin fawr er mwyn ei wrthwynebu.<ref> [http://www.a40infobahn.co.uk/History/Bauzan.htm] </ref> Roedd ganddo gefnogaeth llawer o uchelwyr gan gynnwys: Stephen Bauzan, Arglwydd Breigan a Llansannor a Nicholas FitzMartin, Arglwydd Cemaes, gyda'r rhan fwyaf o'i filwyr o Loegr a rhai o [[Gasgwyn]].<ref> Marc Morris '''A Great and Terrible King, Edward I and the Forging of Britain''', tudalen 32</ref>
 
==Paratoi am ryfel==
Erbyn 29 Mai 1257 roedd [[llynges]] Saesnig wedi glanio yng [[Caerfyrddin|Nghaerfyrddin]] a'r fyddin a gludwyd yno wedi ymgasglu. Y dydd Iau canlynol, dechreuodd y fyddin fartsio i gyfeiriad [[Llandeilo]], drwy ddyffryn Tywi gan anrheithio a lladd popeth a ddeuent ar ei draws - cymunedau cyfan. Drwy wneud hyn, gobeithient y byddai [[Castell Dinefwr]] yn ildio ar unwaith i atal y fath gyflafan. <ref> [http://archiver.rootsweb.ancestry.com/th/read/CARMARTHENSHIRE/2002-02/1013687630] </ref>
 
==Y Frwydr==
 
===Y diwrnod cyntaf===
Ar y nos Sadwrn canlynol gwersyllodd y Saeson ger [[Llandeilo Fawr]]. Yn ddiarwybod iddynt, roedd Maredudd ap Rhys a Maredudd ap Owain wedi eu dilyn gyda rhan o'u byddin gan ymosod-a-chuddio o'r goedwig gerllaw. Roedd bwau hirion y Cymry yn cael effaith seicolegol ar y saeson ynghyd â synau enbyd. Y person oedd wedi arwain y fyddin saesnig drwy Gymru oedd Rhys Fychan a phenderfynodd [[Stephen Bauzan]] ddanfon Rhys i drafod heddwch gydag arweinwyr y fyddin Gymreig a oedd yng Ngastell Dinefwr. Ni wyddom yn union beth a ddigwyddodd iddo; naill ai newidiodd ei got gan ochri gyda'r Cymry neu cafodd ei ddal. Ond yn sicr fe gollodd y Saeson yr unig berson a oedd yn adnabod yr ardal, ac roeddent ar goll hebddo. [http://www.welshbattlefields.org.uk/eng/?page_id=18] </ref>
 
===Yr ail ddiwrnod===
====Brwydr Coed Llathen====
Oherwydd nad oedd ganddynt wybodaeth ddaearyddol, penderfynodd y saeson ei heglu hi'n ôl i Gaerfyrddin. Rhwng torriad gwawr a chanol dydd roedd bwau hirion a phicelli'r Cymry wrthi'n ddiddiwedd. Tua chanol dydd roedd brwydro person i berson a chipiodd y Cymry wageni cyflenwadau bwyd ac arfau'r Saeson yng Nghoed Llathen. <ref> [http://www.welshbattlefields.org.uk/eng/?page_id=18] </ref>
 
====Brwydr Cymerau====
Roedd ysbryd y fyddin saesnig yn rhacs; roeddent wedi cael eu gwanhau gan dachtegau'r fyddin Gymreig hyd syrffed. Ymgasglodd y cyfan ynghŷd i'r gorllewin - a martsio i gyfeiriad Cymerau. Roedd y tir yma'n berffaith i'r Cymry: ceunentydd a thirwedd garw i'w harafu a gwern gwlyb a fyddai'n gwbwl anobeithiol i'r marchogion Saesnig. Rhagodwyd y Saeson; ymosodwyd gyda holl rym y fyddin Gymreig a lladdwyd Stephen Bauzan ac hyd at 3,000 o'i filwyr. Dihangodd gweddill y fyddin saesnig fel ieir am eu bywydau. <ref>[http://www.bbc.co.uk/wales/southwest/sites/local_history/pages/cadfan.shtml 'Bloody Battlefields of Cadfan', BBC]</ref>
 
===Y Trydydd diwrnod===
 
==Wedi'r storm...==
 
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}