Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Brwydr Coed Llathen"

Ychwanegwyd 1,251 beit ,  12 o flynyddoedd yn ôl
gwbwlhau
(Parhau)
(gwbwlhau)
 
====Brwydr Cymerau====
Roedd ysbryd y fyddin saesnigSaesnig yn rhacs; roeddent wedi cael eu gwanhau gan dachtegau'r fyddin Gymreig hyd syrffed. Ymgasglodd y cyfan ynghŷd i'r gorllewin - a martsio i gyfeiriad Cymerau. Roedd y tir yma'n berffaith i'r Cymry: ceunentydd a thirwedd garw i'w harafu a gwernchorsdir gwlyb a fyddai'n gwbwl anobeithiol i'r marchogion Saesnig. Rhagodwyd y Saeson; ymosodwyd gyda holl rym y fyddin Gymreig a lladdwyd Stephen Bauzan ac hyd at 3,000 o'i filwyr. Dihangodd gweddill y fyddin saesnigSaesnig fel ieir am eu bywydau. <ref>[http://www.bbc.co.uk/wales/southwest/sites/local_history/pages/cadfan.shtml 'Bloody Battlefields of Cadfan', BBC]</ref>
 
Gwyddwn fod Llywelyn ei hun wedi arwain y frwydr.<ref>[http://www.bbc.co.uk/wales/southwest/sites/local_history/pages/cadfan.shtml 'Bloody Battlefields of Cadfan', BBC] </ref>
 
==Wedi'r storm...==
Yn dilyn buddugoliaeth fawr y Cymry ym Mrwydr Coed Llathen, aethent ymlaen i ymosod ar Gastell [[Talacharn]], [[Llansteffan]] ac [[Arberth]]. Roedd Rhys Fychan erbyn hyn yn deyrngar i Lywelyn, a rhoddwyd ei diroedd yn ôl iddo am ei drafferth. Gwylltiodd Maredudd ap Rhys a Maredudd ap Owain gan newid eu lliwiau. Roedd Harri, brenin Lloegr, wedi dychryn gyda'r golled a gafodd ei fyddin a phenderfynodd y byddai'n ymosod eto'r flwyddyn honno ar Gymru. Ond methiant fu'r ymosodiad hwn hefyd: daliwyd y llongau cyflenwi bwyd y saeson (a oedd yn dod o iwerddon) a gorfodwyd hwy i droi yn ôl. Yr un dachteg unwaith eto; 'doedd y Saeson heb ddysgu o'u cangymeriadau ym Mrwydr Coed Llathen! Ac unwaith eto, defnyddiai'r Cymry eu bwau hirion a'u tachteg taro-a-ffoi yn llwyddiannus.
 
Erbyn 1258 roedd y [[Berfeddwlad]] a'r Gymru frodorol (''Pura Wallia'') yn ei feddiant ac roedd y rhan fwyaf o'r arweinwyr Cymreig wedi talu gwrogaeth iddo. Y flwyddyn hon, hefyd, y galwodd ei hun yn Dywysog Cymru gyfa.<ref> Gwyddoniadur Cymru, Gwasg Prifysgol Cymru, 2008, tudalen 582.</ref>
 
==Cyfeiriadau==