Pierre Abélard: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 11:
Ganed Abélard ger [[Nantes]] yn 1079. Astudiodd dan yr athronydd [[Enwoliaeth]]ol [[Roscellinus]] ac wedyn aeth i astudio ym [[Paris|Mharis]] dan [[Guillaume de Champeaux]]. Gwrthododd athroniaeth [[realaeth (athroniaeth)|realaeth]] ei athro mewn cyfres o ddadleuon a enillodd fri iddo fel athronydd. Cafodd ei apwyntio yn athro a thrôdd at astudio diwinyddiaeth ; oherwydd ei ynglyniad wrth dulliau [[rhesymeg]]ol cafodd ei gyhuddo o hyrwyddo [[heresi]].
 
Syrthiodd Abélard mewn cariad â [[lleian]] ifanc o'r enw Héloïse (1101 - 1164), nith Fulbert, un o [[canonCanon (clerigwr)|ganoniaid]] [[Notre-Dame de Paris]]. Dysgai Abélard y ferch ifanc yn nhŷ Fulbert. Cawsant blentyn a phriodasant yn ddirgel. Ond pan ddaeth y carwriaeth anghyfreithlon i'r golwg dialodd Fulbert ar Abélard trwy logi band o droseddwyr i'w ddal a thorri ei geilliau. Erlidwyd Abélard gan yr awdurdodau eglwysig hefyd a bu rhaid iddo ffoi am loches o fynachlog i fynachlog, yn cynnwys Abaty Sant Gildas yn Llydaw (1128-1134). Roedd Sant [[Bernard]] yn arbennig o feirniadol o'i waith ac yn ei gyhuddo o fod yn heretig. Treuliodd ddau gyfnod yn y carchar a gorffenodd ei ddyddiau yn [[Abaty Cluny]], lle cafodd nawdd ac amddiffyn gan yr abad caredig.
 
Fel llenor, mae Abélard yn enwog am y gyfres o lythyrau rhyngddo â Hélöise, a apwyntiwyd ganddo yn abades [[lleiandy]] [[Paraclete]], a sefydlwyd ganddo ei hun.