Torgoch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS |
Dim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS |
||
Llinell 24:
Mewn rhai rhannau o'r byd, megis [[Canada]], gwledydd Llychlyn a [[Siberia]] mae'n llawer mwy cyffredin.
==Hanes eu pysgota yn Eryri==
*Mewn truth hir am bob math o ddigwyddiadau yn Y Drych (5 Tachwedd 1914) :- "Ym mysg y pysgod gwneir difrod garw ar y torgochiaid yn llyn Llanberis y dyddiau hyn. Mae llawer yn cael helfa dda aml i ddiwrnod, tra gwerthir hwy yn rhwydd am swllt y pwys."<ref>Y Drych, 5 Tachwedd 1914 (DW-T)</ref>
</br>
*'''Herald Cymraeg 1909'''
Y mae yn llynoedd Padarn, Peris a Cawellyn bysgod a elwir y "Torgoch," neu y "Torgochiaid." Cawsent yr enw Torgoch oddiwrth y lliw coch ysblenydd sydd ar hyd boliau y gwrywod. Y mae tor y fenyw yn wahanol o liw arianaidd, ond yr adain yn goch, er nid mor goch a'r gwryw. Gyda genwair neu wialen y delir hwy yn y blynyddoedd hyn, fel y math ereill o bysgod, tra mai gyda rhwyd yn unig y delid hwy yn yr hen amser [cyn 1909].
Dechreuid rhwydo yn yr hen amser yn llynau
Gofynwyd i Dafydd Ddu, gan wr o'r enw Humphrey Owen, a ganlyn: —
▲::"Pa fath dywydd yw'r goreu i'w dal, pa un ai ystormus ai tawel, oer ai cynhes, rhew, barug ai meiriol?".
::"Tywydd rhew tawel ydyw y goreu i ddal y Torgoch," ebe'r prydydd.
::"Tuag awr wedi gwyll y nos, neu awr neu ddwy cyn toriad y dydd, ydyw'r amser goreu i fwrw rhwyd am Dorgochiaid."
::"Mewn perthynas i'w hoed, nid oes dim sicrwydd. Pan y bydd y Torgochiaid yn dyfod i'r glanau i gladdu, nid ymddengys llawer o wahaniaeth yn eu maintioli."
::"Ni wyddis am i'r Torgoch erioed gael ei ddal a genwair."
::"Mae'n ymddangos mai yn yr amser y maent yn claddu y delir y Torgoch; gan hyny, mae'n anhawdd gwybod pa beth yw eu prif ymborth."
::"Y mae'r Torgochiaid yn cael eu gwerthu (gan eu bod y fath bereiddfwyd) am tua swllt y dwsin."
::"Bernir mai trigle cyffredin y Torgoch yw gwaelod y llyn. Gwelwyd heidiau ohonynt amser yn ôl yn neidio tua chanol Llyn Padarn, eithr ni ddeuant yn amlwg ond yn amser claddu."
::"Ni ddaliwyd yr un Torgoch yn un o'r llynau eraill. Yn Llyn Cawellyn, ni ddelir hwynt ond mewn un man, sef yn ngheg yr afon, gerllaw y Caeau Gwynion, wrth ochr y ffordd fawr."
::"Dywed llafar gwlad iddynt ymddangos gyntaf yn Llynau Llanberis, yna yn Nghawellyn, ac yn olaf yn Cwm Silyn; a thybid gynt fod cysylltiad tanddaearol o'r naill i'r llall. Yn Llyn Uchaf Llanberis [Peris?], delir hwynt wrth enau y bont fawr, mewn lle graianog; ac hefyd yn nghwr isaf y llyn. Yn y llyn isaf, sef Padarn, delir hwynt wrth Ddol y Tydu, ac wrth agorfa Bala Deulyn (sef Pont y Bala yn awr). Daliwyd dros driugain dwsin o'r Torgoch ar un dynfa, rai blynyddoedd yn ol, yn y ddau le uchod. Tybir fod y dwfr mwnawl [mwynaidd?] sydd yn rhedeg o waith copr, yr hwn sydd yn nghwrr uchaf Llyn Peris, yn niweidio, nid yn unig y Torgoch, ond hefyd bysgod eraill. Y mae'r gwaith hwnw yn awr wedi sefvll, a chaed helfa doreithiog y tvmhor diweddaf. Am fynedfa tanddaearol o'r naill lyn i'r llall. Mae y peth yn rhy anhawdd ei benderfynu. Gadewir y pwnc i farn gwyr o addysg. ond y mae'n wir ei fod yn draddodiad ar len gwerin gwlad."
::"Nid ymddengys fod y Torgoch yn gallu byw unrhyw amser mewn un dwfr. oddieithr yr hwn y dygwyd ef ohono. Buwyd yn eu cadw'n fyw lawer gwaith am ddiwrnod neu ddau mewn basged yn nghwrr y lIyn. ac felly y buwyd yn eu cario i lynau ereill, lle y trigent [marw] yn fuan; ond pa un a ydynt yn meirw o eisieu maethlondeb, dwfr tyner, gwaelod graianog, neu rhyw achosion eraill, feallai nas gellir penderfynnu, 'Canys pwy a all draethu dirgelwch y dyfnder?'
::"Oherwydd y rhesymau uchod. ymddengys eu trosglwyddiad yn anmhosibl."
Dyna i'r darllenydd holiadau ag atebion cant oed am y Torgochiaid. Mae pethau wedi troi o chwith erbyn heddyw. Welodd Dafydd Ddu Eryri a'i gydoeswyr erioed ddal y Torgoch gyda genwair, ond gyda rhwyd, ond erbyn heddyw ychydig iawn yw'r nifer welodd ddal y Torgoch gyda rhwyd, ond gyda genwair. Gallem gasglu fod mwy o Dorgochiaid yn Llynoedd Padarn a Peris pan oedd rhyddid i'w rhwydo, na phan na cheir ond eu genweirio. Cefais ymgom gyda yr henafgwr Robert Rowland, Snowdon Street, y dydd o'r blaen, un o enweirwyr goreu'r fro, ond sydd erbyn hyn wedi peidio; oherwydd gwaeledd. Coeliaf fod yr hanes yn werth ei gadw ar gyfrif dechreuad pysgota y Torgoch gyda genwair. Dywedaf yr hanes yn ei ddull syml ef wrthyf.
::"Yr oeddwn i a Hugh Thomas, Brvn-tyrch, yn pysgota brithilliaid yn yr Ynys Felan, sef yr afon sydd rhwng Llyn Padarn a Peris, ac yr oeddwn i yn pysgota o'r cwch i'r bas, a Hugh Tomas i'r dyfn, a dyma fi yn dechreu dal yn y lle mas [bas?, ''sic''], a Hugh yn dal dim un yn y dyfn. 'Toedd yr un ohonom yn meddwl mai Torgochiaid oeddan nhw, ond yn meddwl mai brithilliaid, achos yr oedd hi yn rhy dywyli i'w gwel'd nhw yn iawn. Yr oeddan wedi myn'd i ddechreu pysgota cyn toriad y dydd. Beth bynag, mi ddalis i bedwar ar bymtheg ohonyn nhw, ac 'rydw i yn cofio yn iawn eu bod nhw yn pwyso pum' pwys, ond ddaliodd Hugh Tomos ddim un, ond un brithhill bach. Chlywis i ddim son erioed fod neb wedi dal y Torgoch cyn hyny hefo genwar."
::"Faint o amser sydd er hyny, Robert Rolant?"
::"Oeddynt hwy yn arfer a rhwydo y Torgochiaid cyn dechreu eu pysgota hefo genwair?"
::"Oeddynt, agos bob blwyddvn, ac yn dal peth ofnadwy. Mi gwelis i nhw yn tynu rhyw ddau gybynad i'r lan ar un tynfa. 'Rwy'n meddwl na fethwn i ddim wrth ddweud bod 'na filoedd yn cael eu dal."
|