Guan Hanqing: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Yr oedd '''Guan Hanqing''' ([[Tsieinëeg]] 關漢卿) (fl. tua [[1241]]-[[1320]]), a elwid hefyd "Henwr y Fyfyrgell" (齋叟 Zhāisǒu), yn ddramodydd yn yr iaith Tsieinëeg lafar, a anwyd yn [[Dadu]], prifddinas [[Ymerodraeth yr Yuan]] ([[Anguo]], talaith [[Hebei]], [[China]] heddiw). Fe'i ystyrir yn un o bedwar dramodydd mawr [[y Ddrama Yuan]].
 
==Cefndir==
Ar ôl goresgyn [[Teyrnas Jin]] yng ngogledd Tsieina, sefydlodd y [[Ymerodraeth y Mongoliaid|Mongoliaid]] ei brifddinas yn [[Cambaluc]] (neu Khan-balic) yn [[1264]]. Yn [[1279]], yn sgîl dymchweliad [[Brenhinllin Song y De]], daeth Cambaluc yn brif ganolfan economaidd, wleidyddol a diwyllianol y wlad. Aeth nifer o lenorion gorau'r cyfnod i fyw yn Cambaluc a sefydlasant Gymdeithas Llyfrau Yu-jing yno. Daeth Yuan Hanqing yn un aelod o'r gymdeithas ac enillodd enw iddo'i hun yn fuan. Yn ystod ei ieunctid bu'n fyfyriwr dyfal a dysgodd cyfansoddi cerddi a chaneuon o bob math, clasurol a phoblogaidd. Daeth yn adnabyddus yn y brifddinas am allu cerddorol, ei synnwyr digrifwch, a'i hyblygrwydd fel llenor.
 
==Gyrfa Yuan==
Roedd y cyfnod rhwng canol y [[13eg ganrif]] a dechrau'r [[14eg ganrif]] yn [[Oes Aur]] drama Yuan a llifai nifer fawr o ddramodwyr o fri i Cambaluc. Yn ystod ei arosiad yno ffurfiodd Yuan Hanqing gwmni drama ac weithiau troediai'r llwyfan ei hun. Yr oedd felly'n gyfarwydd â phob agwedd o fyd y ddrama.
 
Rhwng yr [[11eg ganrif]] a'r [[13eg ganrif]] roedd y canu a'r dawnsio i gyd yn y dramau a'r [[Opera Tsieineadd|operau Tsieineaidd]] yn cael ei berfformio gan ferched "''singsong''". Roedd llawer o'r merched hyn wedi cael eu gwerthu i buteindai gan eu rhieni tlawd neu wedi'u hanfon iddynt am fod eu teuluoedd wedi gwrthwynebu'r llywodraeth. Mewn canlyniad roedd ei statws cymdeithasol yn isel iawn. Roedd Guan Hanqing yn llawn cydymdeimlad â nhw a merched a dynion eraill oedd yn byw ar ymylon cymdeithas. Am ei bod yn eu hadnabod mor dda roedd yn awyddus i hyrwyddo eu hachos yn yr unig ffordd a fedrai, sef trwy ei ddramâu. Dysgodd hefyd nifer o dechnegau canu a dawnsio gwerinol, ynghyd ag iaith y werin, ac ymgorfforodd yr elfennau hyn yn ei ddramâu.
 
==Ei ddramâu==
Ysgrifenodd Guan y rhan fwyaf o'i ddramau yn ail hanner y 13eg ganrif. Roedd yn ddramodydd toreithiog. Mae teitlau dros 60 o'i ddramâu yn adnabyddus heddiw ac mae testunau deunaw ohonynt ar glawr.