Guan Hanqing: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
interwiki
Llinell 2:
 
==Cefndir==
Ar ôl goresgyn [[Teyrnas Jin]] yng ngogledd Tsieina, sefydlodd y [[Ymerodraeth y Mongoliaid|Mongoliaid]] ei brifddinas yn [[Cambaluc]] (neu Khan-balic) yn [[1264]]. Yn [[1279]], yn sgîl dymchweliad [[Brenhinllin Song y De]], daeth Cambaluc yn brif ganolfan economaidd, wleidyddol a diwyllianol y wlad. Aeth nifer o lenorion gorau'r cyfnod i fyw yn Cambaluc a sefydlasant Gymdeithas Llyfrau Yu-jing yno. Daeth Yuan Hanqing yn un aelod o'r gymdeithas honno ac enillodd enw iddo'i hun yn fuan. Yn ystod ei ieunctid bu'n fyfyriwr dyfal a dysgodd cyfansoddi cerddi a chaneuon o bob math, clasurol a phoblogaidd. Daeth yn adnabyddus yn y brifddinas am allu cerddorol, ei synnwyr digrifwch, a'i hyblygrwydd fel llenor.
 
==Gyrfa Yuan==