Jean-Jacques Rousseau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: arz:چان چاك روسو
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Jean-Jacques Rousseau (painted portrait).jpg|bawd|Jean-Jacques Rousseau]]
 
[[Athronydd]] ac awdur yn yr iaith [[Ffrangeg]] oedd '''Jean-Jacques Rousseau''' ([[28 Mehefin]], [[1712]] - [[2 Gorffennaf]], [[1778]]).

Cafodd ei eni yn [[Geneva]]. Daeth yn ffrind i [[Denis Diderot]] ac ymunodd â'r [[Gwyddoniadwyr (Diderot)|Gwyddoniadwyr]]. Credai fod natur y bod dynol yn berffaith ynddi ei hun ond ei bod wedi'i llygru gan gymdeithas amherffaith; amlygir hyn yn bennaf yn ei [[nofel]] ar [[addysg]], ''[[Émile]]'' ([[1762]]). Cafodd syniadau gwleidyddol Rousseau ddylanwad sylweddol ar ei gyfoeswyr yn [[Ffrainc]] a gweddill [[Ewrop]] ac, yn ddiweddarach, ar arweinwyr a damcaniaethwyr y [[Chwyldro Ffrengig]] (er na chredai J.-J. ei hun mewn [[chwyldro]]). Fel llenor cafodd ei arddull cain a syniadaeth [[Rhamantiaeth|Ramantaidd]] ddylanwad ar lenorion fel [[Goethe]], [[Shelley]], [[Byron]] a [[Wordsworth]]. Ceir ei ysgrifeniadau mwyaf personol yn ''[[Les Confessions]]'' a ''[[Rêveries du promeneur solitaire]]'', a gyhoedwyd ar ôl ei farwolaeth. Mewn cyferbyniad â [[Voltaire]] ac eraill o'r Rhesymegwyr, roedd Rousseau yn [[Cristnogaeth|Gristion]] rhyddfrydol a gredai fod [[Natur]] yn allwedd i ddeall y [[Duwdod]].
 
== Gwaith Rousseau ==