Torgoch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 28:
*Mewn truth hir am bob math o ddigwyddiadau yn Y Drych (5 Tachwedd 1914) :- "Ym mysg y pysgod gwneir difrod garw ar y torgochiaid yn llyn Llanberis y dyddiau hyn. Mae llawer yn cael helfa dda aml i ddiwrnod, tra gwerthir hwy yn rhwydd am swllt y pwys."<ref>Y Drych, 5 Tachwedd 1914 (DW-T)</ref>
</br>
*'''Herald Cymraeg 1909'''
TORGOCHIAID LLYNOEDD PADARN, PERIS', CAWELLYN [penawd cyfoes]
Y mae yn llynoedd Padarn, Peris a Cawellyn bysgod a elwir y "Torgoch," neu y "Torgochiaid." Cawsent yr enw Torgoch oddiwrth y lliw coch ysblenydd sydd ar hyd boliau y gwrywod. Y mae tor y fenyw yn wahanol o liw arianaidd, ond yr adain yn goch, er nid mor goch a'r gwryw. Gyda genwair neu wialen y delir hwy yn y blynyddoedd hyn, fel y math ereill o bysgod, tra mai gyda rhwyd yn unig y delid hwy yn yr hen amser [cyn 1909].
Llinell 66:
 
Coeliaf fod ffeithiau Dafydd Ddu a ffeithiau Robert Rowlant yn llefaru, mai po fwyaf a ddelir ohonynt mai mwyaf oll fydd ohonynt. Ni threiaf gysoni hyn. <ref> awdur y traethawd: WILLIAM WILLIAMS. Bod y Gof, Llanberis[https://newspapers.library.wales/view/3780929/3780932/20/Torgoch]</ref>
 
*'''Dal pysgod ar y gwelyau claddu''' [dodwy] oeddynt gyda rhwydi - felly roeddynt yn llawn o rawn a 'milt' ac nid oedd ansawdd y cig ddim yn rhyw dda iawn. 'Roeddynt yn cael ei piclo yr amser yma - ond mae'n debyg fod eu cig yn llawn maeth
er yn feddal, ac yn cael ei groesawy fel rhywbeth gwahanol iw prydau bwyd.
 
==Cyfeiriadau==