Cristnogaeth yng Nghymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Ymneilltuaeth a thwf y capeli: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Llinell 20:
Penwyd llawer o estroniaid yn esgobion, a throdd nifer ohonynt at awdurdod Cyfraith Ganonaidd yr Eglws Ladin, ac dipyn i beth cafodd ei chorffori yn nhalaith [[Caergaint]]. Carreg filltir yn y Seisnigio hwn yw pan dyngodd archesgob Urban (1107 - 1134), esgob Morgannwg lw o ufudd-dod i archesgob Caergaint. Yn ei feddwl ef, gwnaeth yr hyn a oedd yn iawn - cryfhau ei berthynas gyda noddwr pwerus er mwyn cadw eiddo'r Eglwys o ddwylo blewog y marchogion Normanaidd. Yn yr un drefn, penodwyd y Norman Bernard yn esgob Tyddewi yn 1115 a thyngodd lw o uffudd-dod i archesgob Caergaint ac i frenin Lloegr. Yn yr oes yma y daeth bri mawr i 'Gwlt Dewi' a chodwyd llawer o eglwysi - o Henffordd i Fae Ceredigion wedi'u cysegru i [[Dewi Sant|Ddewi]]. Yn yr adeg hon hefyd y ceisiwyd cydnabod Tyddewi fel archesgobaeth, gydag awdurdod dros egobion Cymru. Yn 1176 ac eto yn 1179 ymgyrchodd [[Gerallt Gymro]] o blaid dyrchafu statws Eglwys Dewi yn archesgob.
 
Mawr fu dylanwad crefydd ar lenyddiaeth Cymru yn yr Oesoedd Canol. Cafwyd nifer o destunau o [[Bucheddau'r Saint]] yn y cyfnod hwn hefyd, er enghraifft ''[[Buchedd Dewi]]'' gan [[Rhygyfarch]]. Cyfieithwyd darnau o'r [[Beibl]] yn ogystal â nifer o ysgrythurau [[apocryffaApocryffa'r Beibl|apocryffaidd]]idd. Canai'r beirdd [[awdl]]au a [[cywydd|chywyddau]] i [[Duw|Dduw]], y Forwyn Fair a'r seintiau.
 
Os mai nawdd Normanaidd oedd y tu ôl i [[Urdd Sant Bened]], [[Rhys ap Gruffudd]] yn anad neb arall a sicrahodd lwyddiant [[Urdd y Sistersiaid]], a chodwyd [[Ystrad Marchell]] yn 1170, [[Abaty Cwm Hir]] yn 1176, [[Llantarnam]] ger [[Caerleon]] yn 1189, [[Abaty Aberconwy]] yn 1186, [[Abaty Cymer]], [[Meirionnydd]] yn 1198 ac [[Abaty Glyn Egwestl]] yn 1202, er enghraifft.