Rhyfel Annibyniaeth America: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: sw:Vita ya uhuru wa Marekani |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 3:
Ymladdwyd '''Rhyfel Annibyniaeth America''', a elwir hefyd y '''Chwyldro Americanaidd''', rhwng byddin [[Prydain Fawr]] a'r 13 talaith yng Ngogledd America oedd wedi gwneud cynghrair a'i gilydd i hawlio annibyniaeth. Cafodd yr Americanwyr gymorth [[Ffrainc]]. Ymladdwyd y rhyfel rhwng [[1775]] a [[1783]], a'r canlyniad oedd creu gwladwriaeth annibynnol, [[Unol Daleithiau America]].
Dechreuodd y rhyfel yn 1775, pan gymerodd y gwrthryfelwyr feddiant o lywodraeth pob un o'r tair talaith ar ddeg; digwyddiad pwysig oedd [[Brwydr Bunker Hill]] ym mis Mehefin, buddugoliaeth i'r byddin Prydeinig, ond gyda cholledion mawr. Yn [[1776]], cyhoeddasant y gwrthryfelwyr eu hannibyniaeth gyda [[Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau]]. Yn [[1777]], llwyddodd y gwrthryfelwyr i gymeryd byddin Brydeinig yn garcharorion ym [[Brwydr Saratoga|Mrwydr Saratoga]], ac o ganlyniad, ymunodd Ffrainc a'r rhyfel at ochr y gwrthryfelwyr yn gynnar yn 1778.
Yn dilyn buddugoliaeth llynges Ffrainc dros lynges Prydain ym [[Brwydr y Chesapeake|Mrwydr y Chesapeake]], bu raid i fyddin Brydeinig arall ildio i'r gwrthryfelwyr yn [[Yorktown]] yn [[1781]]. Diweddwyd y rhyfel gan Gytundeb Paris yn [[1783]], gyda'r llywodraeth Brydeinig yn derbyn annibyniaeth yr Unol Daleithiau. Daeth [[George Washington]], oedd wedi bod yn un o brif gadfridogion y gwrthryfelwyr yn ystod y rhyfel, yn Arlywydd cyntaf y wlad.
|