Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Yr Oriel Bortreadau Genedlaethol"

B
Er bod enghreifftiau o waith gan artistiaid megis [[Richard Wilson (arlunydd)|Richard Willson]], John Singer Sargent, [[William Hogarth]], Syr [[Joshua Reynolds]] ac artistiaid nodedig eraill yn y casgliad nid yw'r holl bortreadau yn eithriadol o artistig. Yn aml, mae gwerth chwilfrydedd yn fwy na gwerth artistig yn y gwaith, fel yn achos y portread o [[Edward VI, brenin Lloegr|Edward VI]] gan William Scrots, darlun Patrick Brontë o'i chwiorydd [[Charlotte Brontë|Charlotte]], [[Emily Brontë|Emily]] ac [[Anne Brontë|Anne]], neu gerflun o'r [[Victoria, brenhines y Deyrnas Unedig|Frenhines Victoria]] a'r [[Albert o Saxe-Coburg-Gotha|Tywysog Albert]] mewn gwisg ganoloesol.
 
Mae rhai o'r darluniau megis y portread grŵp o fynychwyr cynhadledd Somerset House 1604 i ddathlu cytundeb heddwch rhwng [[Lloegr]] a [[Sbaen]] ym 1640 yn ddogfennau hanesyddol pwysig ynddynt eu hunain. <ref>{{Cite web|url=https://collections.rmg.co.uk/collections/objects/14260.html|title=The Somerset House Conference, 19 August 1604 (Painting)|date=|access-date=12 mawrth 2019|website=|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>
 
Caniatawyd portreadau o ffigurau byw ym 1969