Dihareb: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manion, ehangu ychydig
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Dywediad byr, poblogaidd yw '''dihareb''', sy'n mynegi gwiredd yn seiliedig ar brofiad o fywyd cyffredin. Nid yw dihareb yn ddyfyniad o eiriau un person, yn hytrach, mae'n tarddio o draddodiad llafar fel rheol, ac yn crynhoi doethineb canrifoedd. Mae gan bob [[iaith]] a [[diwylliant]] ei diarebion unigryw ei hun er y ceir rhai diarebion sy'n 'rhyngwladol' ac a geir mewn sawl iaith a diwylliant. Mae'r [[gwireb]] yn perthyn yn agos i'r dihareb ond er bod diarebion yn cynnwys elfen wirebol yn aml nid yw pob gwireb yn ddihareb.
 
Yn aml, mae dihareb yn cynnwys trosiad, er enghraifft, 'Nid aur yw popeth melyn' a 'Gorau cannwyll pwyll i ddyn'. Ond ceir diarebion heb drosiadau hefyd, e.e. 'Trech Duw na phob darogan'.
Llinell 6:
*''[[Englynion y Clywaid]]''. Cyfres o englynion Cymraeg Canol sy'n cynnwys diarebion.
*[[Epigram]]
*[[Gwireb]]
 
==Llyfryddiaeth==