Gwireb: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Gosodiad yn cynnwys gwir cyffredinol, wedi'i fynegi'n gwta, yw '''gwireb'''.<ref>Morgan D. Jones. ''Termau Iaith a Llên'' ([[Gwasg Gomer]], 1972), tud. 77.</ref> Mae'r wireb yn perthyn yn agos i'r [[dihareb|ddihareb]] ond er bod diarebion yn cynnwys elfen wirebol yn aml nid yw pob gwireb yn ddihareb. Gwahaniaeth arall rhwng y wireb a'r ddihareb yw bod y wireb yn greadigaeth ymwybodol lenyddol gan amlaf tra bod y ddihareb, fel rheol, yn tarddu o'r diwylliant poblogaidd. Ond gellir cymhwyso'r term 'gwireb' i gynnwys unrhyw osodiad o'r gwir cyffredinol, mewn unrhyw faes.
 
==Llenyddiaeth==
Fel y diarebion, mae gan y wireb hanes hir mewn [[llenyddiaeth]]. Gelwir barddoniaeth sy'n cynnwys elfen amlwg o wireb yn 'canu gwirebol'. Roedd y ''genre'' yma o ganu yn boblogaidd yn yr [[Oesoedd Canol]] ac fe'i ceir gyda chanu natur yn aml. Un o'r casgliadau mwyaf adnabyddus yw ''[[Englynion y Clyweit]]'' ('Englynion y Clywaid'), casgliad o [[englyn]]ion gwirebol a gyfansoddwyd tua diwedd y 12fed ganrif neu ddechrau'r 13eg, yn ôl [[Ifor Williams]]. Enghraifft arall o ganu gwirebol yn y Gymraeg yw'r cyfresi o englynion 'Eiry mynydd' ('Eira mynydd'), e.e. y rhai a geir yn y gerdd 'Penyd Llywelyn a Gwrnerth':