Falls Road: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: de:Falls Road
pytiau o wybodaeth, llyfryddiaeth
Llinell 1:
[[Delwedd:Bobby sands mural in belfast320.jpg|250px|bawd|de|Murlun i goffa [[Bobby Sands]] yn y Falls Road.]]
[[Delwedd:The Falls Road Library - geograph.org.uk - 71078.jpg|250px|bawd|de|Rhan o'r Falls Road yn 2005.]]
Lleolir y '''Falls Road''' (o'r enw [[Gwyddeleg]]: '''''Bóthar na bhFál''''' sef "ffordd y cloddiau") yng ngorllewin [[Belffast]], [[Gogledd Iwerddon]]. Dyma'r brif ffordd yng ngorllewin Belffast, sy'n rhedeg o Stryd Divis (''Divis Street'') yng nghanol y ddinas i Andersonstown yn y maesdrefi. Mae ei enw yn gysylltiedig â chyfnod [[Helyntion Gogledd Iwerddon]] a chymunedau [[Yr Eglwys Gatholig Rufeinig|Catholig]] a [[Cenedlaetholdeb Gwyddelig|Gweriniaethol]] y ddinas. Mae'r ardal gyfagos o gwmpas Ffordd Shankill (''Shankhill Road'') yn ardal [[Protestaniaeth|Brotestannaidd]] yn bennaf, a wahanir o'r Falls gan '"linellau heddwch'". Dyma'r rhan o Felffast lle ceir y nifer uchaf o siaradwyr [[Gwyddeleg]]. Defnyddir yr enw i gyfeirio at y rhan honno o Orllewin Belffast sy'n gorwedd ger y ffordd hefyd.
 
==Hanes==
Mae pobl a gysylltir â'r Falls Road yn cynnwys [[James Connolly]], a arosodd yno am gyfnod ar ddechrau'r 20fed ganrif, ac [[Eamon de Valera]], a safodd fel ymgeisydd y Falls yn etholiad cyffredinol 1918.
Mae hanes y Falls yn dechrau yn gynnar yn y 19eg ganrif pan ddaeth yn gartref i bobl a symudodd i weithio yn ffatrioedd brethyn Belffast. Cynyddodd y boblogaeth yn gyflym yn ail hanner y ganrif honno a chodwyd tai elfennol i'r gweithwyr, heb dŵr na thoiledau, ar hyd y Falls ac yn yr ardal gyfagos. Roedd yn gymuned dlawd a difreintiedig iawn ond clos.
 
Ar ddiwedd y 1960au, dechreuodd nifer o Gatholigion Gogledd Iwerddon ymgyrchu dros gael [[hawliau sifil]]. Roedd hyn yn cynnwys galw am ddiwedd i'r gwahaniaethu ar sail crefydd yn achos tai a gwaith. Gwrthwynebwyd [[Mudiad Hawliau Sifil Gogledd Iwerddon]] gan rhai [[Unoliaethwyr]]. Ymosodwyd ar ardaloedd Catholig. Llosgwyd sawl stryd o gwmpas y Falls Road gan 'teyrngarwyr' yn Awst 1969 ac anfonodd [[llywodraeth y DU]] y [[Fyddin Brydeinig]] i strydoedd y Falls Road. Cawsont groeso i gychwyn gan drigolion y Falls, yn y gobaith o gael amddiffyn rhag yr ymosodiadau, ond newidiodd ei hagwedd wrth iddynt farnu fod y Fyddin yno yn eu herbyn nhw. Yn 1970 cafwyd yr hyn a alwyd y 'Falls Curfew'. Yn dilyn ymosodiad gan y [[Provisional IRA]], amgylchynwyd strydoedd y Falls, sy'n gartref i tua 10,000, gan 3000 o filwyr Prydeinig, a ollyngodd [[nwy CS]]. Dilynodd brwydr ffyrnig rhwng yr [[IRA Swyddogol]] a'r Fyddin Brydeinig. Lladdwyd pedwar o sifiliaid Catholig gan y Fyddin mewn penwythnos. Am 30 mlynedd ar ôl hynny bu gan y Fyddin Brydeinig bresenoldeb sylweddol yn y Falls Road, gyda gwersyll i gadw golwg ar y Falls ar loriau uchaf y Tŵr Divis a wasanaethid gan hofrenyddion: cafodd hyn ei symud yn Awst 2005.
 
==Pobl==
Mae pobl a gysylltir â'r Falls Road yn cynnwys [[James Connolly]], a arosodd yno am gyfnod ar ddechrau'r 20fed ganrif, ac [[Eamon de Valera]], a safodd fel ymgeisydd y Falls yn etholiad cyffredinol 1918. Magwyd [[Gerry Adams]], arweinydd [[Sinn Fein]], yn y Falls ac yno mae wedi treulio rhan helaeth ei oes.
 
==Llyfryddiaeth==
*[[Gerry Adams]], ''[[Falls Road Memories]]'' (Llyfrau Brandon, 1982).
 
==Dolenni allanol==
Llinell 11 ⟶ 19:
* [http://www.raidiofailte.com/ Raidió Fáilte 107.1 FM], radio lleol
* [http://fallsroadbelfast.rushlightmagazine.com/ Falls Road yn ''Rushlight Magazine'']
 
 
[[Categori:Belffast]]