Richard Ithamar Aaron: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat
Tagiau: Golygiad cod 2017
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Gwybodlen person/Wicidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= dinasyddiaeth | nationality = {{banergwlad|Cymru}} | dateformat = dmy}}
Roedd '''Richard Ithamar Aaron''' ([[6 Tachwedd]] [[1901]] – [[4 Ebrill]] [[1987]])<ref>{{ODNBweb|last=Jones|first=O. R.|date=2004|title=Aaron, Richard Ithamar (1901–1987)|id=65645}}</ref> yn [[athronydd]] o Gymro, a aned ym [[Blaendulais|Mlaendulais]], [[Morgannwg]].
 
Roedd yn fab i William Aaron dilledydd, a'i wraig Margaret Griffith. Fe'i magwyd yn Llwyfenni, Llangyfelach, Ynystawe, a oedd yn gartref iddo rhwng 1910 a 1932, a derbyniodd ei addysg uwchradd yn ysgol ramadeg Ystalyfera. Aeth i Brifysgol Cymru, Caerdydd yn 1918 i astudio hanes ac athroniaeth. Yn 1923 fe'i hetholwyd yn gymrawd Brifysgol Cymru a alluogodd iddo fynd i Goleg Oriel Rhydychen, lle enillodd radd DPhil (1928) am draethawd hir o'r enw 'Hanes a gwerth y gwahaniaeth rhwng deallusrwydd a greddf '.
 
==Gyrfa==
Cafodd Aaron ei addysg brifysgol yng [[Coleg Oriel, Rhydychen|Ngholeg Oriel, Rhydychen]]. Roedd yn Athro Athroniaeth yng [[Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth|Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth]], o [[1932]] hyd ei ymddeoliad yn [[1969]]. Bu hefyd yn is-gadeirydd [[Coleg Harlech]], llywydd [[Cymdeithas y Meddwl]] a chadeirydd [[Cyngor Cymru]]. Rhwng [[1938]] a [[1968]] golygodd y cylchgrawn ''[[Efrydiau Athronyddol]]''.<ref>Stephens, Meic (gol.), ''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru'' (Caerdydd, 1988).</ref>
 
Prif ffocws ei waith athronyddol oedd [[epistemoleg]] a [[Cyffredinolion|chyffredinolion]], ond mae'n fwyaf adnabyddus am ei fywgraffiad o'r athronydd [[John Locke]].