Eugenius Vulgarius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
 
Delwedd
Llinell 3:
Ychydig sy'n hysbys amdano ar wahân i'r hyn y gellir ei gasglu o'i waith llenyddol. Roedd yn ysgolhaig ymroddgar ond ofnus a edmygai'n fawr y [[Rhestr awduron Lladin clasurol|llenor Rhufeinig]] [[Seneca]] ac a freuddwydiai am ddychweliad yr [[Oes Aur]] pan deyrnasai [[Charlemagne]] ac roedd llenyddiaeth glasurol yn cael ei pharchu. Cyfansoddodd sawl telyneg Ladin.
 
==Synod y Corff Marw==
Ymddengys iddo dreulio'r rhan fwyaf o'i oes yn byw'n dawel ac yn ysgrifennu. Ni fentrodd i ymyrru yn y byd a'i bethau ond unwaith, a bu'n edifar ganddo am hynny. Roedd y [[Pab Fformosws]] ([[891]]-[[896]]) yn bab cryf ac ymroddedig, yr olaf felly am rai canrifoedd. Roedd y pab wedi cefogi'r tywysog [[Arnulf]], un o ddisgynyddion uniongyrchol olaf Charlemagne, mewn cweryl dynastig ac wedi ei wahodd i [[Rhufain|Rufain]] a'i goroni'n [[Yr Ymerodraeth Lân Rufeinig|Ymerodr Glân Rhufeinig]]. Ysgrifenodd Vulgarius bamffled yn cefnogi'r pab ac yn beirniadu'r ymgeisydd arall am y goron, y Dug Lambert. Yn anffodus, bu farw Arnulf ar ôl ei goroni, ar ei ffordd i [[Spoleto]], a bu farw'r hen bab ei hun yn fuan wedyn (yn bedair ugain oed). Roedd mam y Dug Lambert, [[Ageltrude]], yn ddynes faleisus iawn. Pan gadeiriwyd pab newydd, [[Pab Stephen VII]], datgladdiwyd corff yr hen bab a'i daflu i [[Afon Tiber]] a dechreuodd plaid Ageltrude erlid cefnogwyr Fformosws.
[[Delwedd:Jean_Paul_Laurens_Le_Pape_Formose_et_Etienne_VII_1870.jpg|300px|bawd|Synod y Corff Marw ([[Jean Paul Laurens]], [[1870]])]]
Ymddengys iddo dreulio'r rhan fwyaf o'i oes yn byw'n dawel ac yn ysgrifennu. Ni fentrodd i ymyrru yn y byd a'i bethau ond unwaith, a bu'n edifar ganddo am hynny. Roedd y [[Pab Fformosws]] ([[891]]-[[896]]) yn bab cryf ac ymroddedig, yr olaf felly am rai canrifoedd. Roedd y pab wedi cefogi'r tywysog [[Arnulf]], un o ddisgynyddion uniongyrchol olaf Charlemagne, mewn cweryl dynastig ac wedi ei wahodd i [[Rhufain|Rufain]] a'i goroni'n [[Yr Ymerodraeth Lân Rufeinig|Ymerodr Glân Rhufeinig]]. Ysgrifenodd Vulgarius bamffled yn cefnogi'r pab ac yn beirniadu'r ymgeisydd arall am y goron, y Dug Lambert. Yn anffodus, bu farw Arnulf ar ôl ei goroni, ar ei ffordd i [[Spoleto]], a bu farw'r hen bab ei hun yn fuan wedyn (yn bedair ugain oed). Roedd mam y Dug Lambert, [[Ageltrude]], yn ddynes faleisus iawn. Pan gadeiriwyd pab newydd, [[Pab Stephen VII]], datgladdiwyd corff yr hen bab a'i dafluosod ar orsedd gyferbyn â gorsedd y pab newydd yn [[y Fatican]]. Mewn golygfa ercyll cafwyd yr hen bab yn euog o heb fod yn deilwng o'i swydd. Fe'i dadwisgiwyd a thafliwyd ei gorff i [[Afon Tiber]]. aYna dechreuodd plaid Ageltrude erlid cefnogwyr Fformosws.
 
Ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach, â phab newydd arall yn [[y Fatican]], sef [[Sergiws IV]], dechreuodd yr erlid eto. Ysgrifenodd Vulgarius bamffled arall, yn dweud mai dim ond dyn teilwng o lenwi sgidiau [[Sant Pedr]] oedd yn haeddu fod yn bab (''Non est sequax Petri, si non habeat meritum illius Petri''). Mewn ymateb gorchmynwyd i Vulgarius ymneilltuo i fyfyrgell ym mynachlog [[Monte Cassino]]. Pan gafodd wys i ymddangos yn Rhufain daeth ei gymeriad osnus i'r amlwg; ysgrifenodd lythyr edifarhaol a gwenieithus i deulu Sergius a llwyddodd i berswadio'r pab a'i gefnogwyr nad oedd yn werth ei erlid a chafodd fyw allan gweddill ei oes yn parhau â'i waith ysgolheigaidd.
 
==Llyfryddiaeth==