Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
teitlau brenhinoedd a tsariaid
Llinell 46:
 
::Cwestiwn da. Nid oedd unrhyw un o'r gramadegau sydd gennyf yn trafod hwn yn uniongyrchol. Rwyf wedi dilyn patrwm John Davies yn Hanes Cymru (e.e. yn y mynegai - 'Edward I, brenin Lloegr'). Yn ôl Y Golygiadur a Gramadeg y Gymraeg byddai dyn yn rhoi priflythyren os yn sôn am 'y Brenin Edward I' (ac fe fyddai'r Y mewn priflythyren pe na bai ar ganol brawddeg). Egluro rhagor amdano mae ychwanegu ', brenin Lloegr' yn hytrach na'i fod yn ran o'r teitl. Fe fyddai dweud rhywbeth fel 'Y Brenin Edward I, brenin Lloegr' siwr o fod yn gywir ond braidd yn hirwyntog! [[Defnyddiwr:Lloffiwr|Lloffiwr]] 23:21, 23 Hydref 2006 (UTC)
 
:::Wedi copïo'r drafodaeth hon (a'i aralleirio ychydig) i [[Wicipedia:Cymorth iaith#Brenhinoedd y Deyrnas Unedig]] er mwyn casglu'r drafodaeth gyfan at ei gilydd. Hefyd wedi rhoi taw am y tro ar altro'r brenhinoedd tan bod cytundeb ar y mater (Deb yn meddwl fy mod wedi bod braidd yn fyrbwyll gyda hwn!). [[Defnyddiwr:Lloffiwr|Lloffiwr]] 21:39, 27 Hydref 2006 (UTC)