Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Iŵl Cesar"

Ychwanegwyd 4 beit ,  blwyddyn yn ôl
dim crynodeb golygu
(Yn gosod File:Vincenzo_Camuccini_-_La_morte_di_Cesare.jpg yn lle Cesar-sa_mort.jpg (gan CommonsDelinker achos: superseded).)
Roedd Cesar yn fab i [[Gaius Julius Caesar yr Hynaf]] ac [[Aurelia Cotta]]. Er bod teulu'r Julii o dras uchel, yn wir yn haeru eu bod yn ddisgynyddion [[Aeneas]] o [[Caerdroea|Gaerdroea]] a thrwyddo ef yn ddibynyddion y dduwies [[Gwener (duwies)|Gwener]], nid oedd aelod o'r teulu wedi dal swydd [[Conswl Rhufeinig|conswl]] ers amser maith. Roedd modryb Cesar, Julia, yn wraig i'r cadfridog [[Gaius Marius]].
 
Yn [[88 CC]] dechreuodd ymryson am rym rhwng Marius a [[Sulla]], gyda theulu Cesar yn ochri gyda Marius. Bu farw ei dad yn [[85 CC]], gan adael Cesar yn ben y teulu yn bymtheg oed. Y flwyddyn wedyn, penodwyd ef i swydd ''[[Flamen Dialis]]'', archoffeiriad [[Iau (duw)|Iau]]. Yn [[83 CC]] priododd Cornelia, merch y conswl [[Lucius Cornelius Cinna]], oedd mewn cynghrair a Marius. Wedi marwolaeth Marius, dychwelodd Sulla o'r dwyrain i gipio grym yn Rhufain, ac ar ddechrau [[81 CC]], apwyntiwyd ef i swydd ''[[unben]]'' gan Senedd Rhufain. Fel perthynas i Marius trwy briodas a mab-yng-nghyfraith i Cinna, collodd Cesar ei swydd fel ''Flamen Dialis''. Mynnodd Sulla ei fod yn ysgaru Cornelia, ond gwrthododd Cesar a bu raid iddo adael [[Rhufain]]. Dychwelodd wedi marwolaeth Sulla yn [[78 CC]].
 
Yn [[75 CC]] teithiodd Cesar i [[Rhodos]] i astudio areithyddiaeth dan [[Apollonius Molon]], oedd eisoes wedi bod yn athro ar [[Cicero]]. Ar y ffordd yno, cipiwyd ei long gan fôr-ladron o [[Cilicia]], a chymerwyd ef yn garcharor a'i gadw ar ynys [[Farmakos|Pharmacusa]] yn y [[Dodecanese]]. Pan ofynnodd y môr-ladron bris o ugain talent am ei ryddid, mynnodd Cesar ei fod yn werth 50 talent. Addawodd Cesar i'r môr-ladron y byddai'n dychwelyd ac yn eu [[croeshoelio]] i gyd. Wedi i'r pris gael ei dalu, cododd Cesar lynges, daliodd y môr-ladron, a chroeshoeliodd hwy yn unol â'i addewid.