Hen Saesneg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

iaith germaneg orllewinol
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd drwy gyfieithu'r dudalen "Old English"
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 20:36, 17 Mawrth 2019

Ffurf hanesyddol gynharaf yr iaith Saesneg yw Hen Saesneg (Ænglisc, Anglisc, Englisc) neu Eingl-Sacsoneg[1] a siaredid yn Lloegr ac yn ne a dwyrain yr Alban yn ystod yr Oesoedd Canol Cynnar. Cafodd ei ddwyn i Brydain Fawr gan ymfudwyr Eingl-Sacsonaidd tua chanol y 5g, ac mae'r gweithiau hynaf yn llenyddiaeth Saesneg yn dyddio o ganol y 7g. Wedi'r goncwest Normanaidd yn 1066, disodlwyd Saesneg, am gyfnod, fel iaith yr uchelwyr yn Lloegr gan yr Eingl-Normaneg. Mae hyn yn nodi diwedd cyfnod yr Hen Saesneg, pan ddylanwadwyd yn gryf ar Saesneg gan Eingl-Normaneg gan ddatblygu'r ffurf a elwir bellach yn Saesneg Canol .

Datblygodd Hen Saesneg o dafodieithoedd Eingl-Ffriseg neu Ingfaeonig a siaredid yn gan lwythau Germanaidd a adwaenid yn draddodiadol fel yr Eingl, y Sacsoniaid, a'r Jiwtiaid. Wrth i'r Eingl-Sacsoniaid ddod i dra-arglwyddiaethu yn Lloegr, bu farw'r iaith Frythoneg a thafodiaith Lladin Prydeinig yn y wlad. Pedair prif dafodiaith oedd i Hen Saesneg a gysylltir â rhai o deyrnasoedd yr Eingl-Sacsonaid: Mersia, Northymbria, Caint, a Wessex. Tafodiaith Wessex, neu Sacsoneg Orllewinol, oedd sail y ffurf lenyddol safonol yng nghyfnod diweddar yr Hen Saesneg[2] er y byddai ffurfiau amlycaf Saesneg Canol a Modern yn datblygu'n bennaf o dafodiaith Mersia. Dylanwadwyd yn gryf ar iaith dwyrain a gogledd Lloegr gan Hen Norseg o ganlyniad i wladychiad gan y Llychlynwyr o'r 9g ymlaen.

Un o'r ieithoedd Germanaidd Gorllewinol ydy Hen Saesneg, sy'n perthyn agosaf at Hen Ffriseg ac Hen Sacsoneg. Megis yr hen ieithoedd Germanaidd eraill, mae'n wahanol iawn i Saesneg Modern ac yn anodd i siaradwyr Saesneg Modern ei deall heb ei hastudio. Mae gramadeg Hen Saesneg yn debyg i ramadeg Almaeneg Modern: mae sawl ffurf a therfyniad ffurfdroadol i enwau, ansoddeiriau, rhagenwau, a berfau, ac mae trefn y geiriau yn llawer mwy rhydd.[2] Ysgrifennwyd yr arysgrifau hynaf yn Hen Saesneg mewn llythrennau rwnig, ond tua'r 9g ymlaen disodlwyd y system honno gan ffurf ar yr wyddor Ladin.

Cyfeiriadau

  1. By the 16th century the term Anglo-Saxon came to refer to all things of the early English period, including language, culture, and people. While it remains the normal term for the latter two aspects, the language began to be called Old English towards the end of the 19th century, as a result of the increasingly strong anti-Germanic nationalism in English society of the 1890s and early 1900s. However many authors still also use the term Anglo-Saxon to refer to the language.

    Crystal, David (2003). The Cambridge Encyclopedia of the English Language. Cambridge University Press. ISBN 0-521-53033-4.
  2. 2.0 2.1 Baugh, Albert (1951). A History of the English Language. London: Routledge & Kegan Paul. tt. 60–83, 110–130 (Scandinavian influence).