Hen Saesneg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd drwy gyfieithu'r dudalen "Old English"
 
llun, cat, manion
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 1:
[[Delwedd:Beowulf Cotton MS Vitellius A XV f. 132r.jpg|bawd|Tudalen flaen ''[[Beowulf]]'', arwrgerdd genedlaethol y Saeson.]]
 
Ffurf hanesyddol gynharaf yr iaith [[Saesneg]] yw '''Hen Saesneg''' (''{{Lang|ang|Ænglisc'', ''Anglisc'', neu ''Englisc}}'') neu '''Eingl-Sacsoneg'''<ref>By{{dyf theGPC 16th century the term ''Anglo|gair=Eingl-Saxon''Sacsoneg came|dyddiadcyrchiad=17 toMawrth refer2019 to all things of the early English period, including language, culture, and people. While it remains the normal term for the latter two aspects, the language began to be called Old English towards the end of the 19th century, as a result of the increasingly strong anti-Germanic nationalism in English society of the 1890s and early 1900s. However many authors still also use the term Anglo-Saxon to refer to the language.}}<br /ref><br /ref> {{Cite book|title=The Cambridge Encyclopedia of the English Language|last=Crystal|first=David|publisher=Cambridge University Press|year=2003|isbn=0-521-53033-4}}</ref> a siaredid yn [[Lloegr]] ac yn ne a dwyrain [[Yr Alban|yr Alban]] yn ystod [[Yr Oesoedd Canol|yr Oesoedd Canol Cynnar]]. Cafodd ei ddwyn i [[Prydain Fawr|Brydain Fawr]] gan ymfudwyr [[Eingl-Sacsonaidd]] tua chanol y 5g, ac mae'r gweithiau hynaf yn llenyddiaeth Saesneg yn dyddio o ganol y 7g. Wedi'r goncwest [[Normanaidd]] yn 1066, disodlwyd Saesneg, am gyfnod, fel iaith yr uchelwyr yn Lloegr gan yr [[Eingl-Normaneg]]. Mae hyn yn nodi diwedd cyfnod yr Hen Saesneg, pan ddylanwadwyd yn gryf ar Saesneg gan Eingl-Normaneg gan ddatblygu'r ffurf a elwir bellach yn [[Saesneg Canol]] .
 
Datblygodd Hen Saesneg o dafodieithoedd Eingl-Ffriseg neu Ingfaeonig a siaredid yn gan lwythau [[Germaniaid|Germanaidd]] a adwaenid yn draddodiadol fel yr Eingl, y [[Sacsoniaid]], a'r Jiwtiaid. Wrth i'r Eingl-Sacsoniaid ddod i dra-arglwyddiaethu yn Lloegr, bu farw'r iaith [[Brythoneg|Frythoneg]] a thafodiaith [[Lladin Prydeinig]] yn y wlad. Pedair prif dafodiaith oedd i Hen Saesneg a gysylltir â rhai o deyrnasoedd yr Eingl-Sacsonaid: Mersia, Northymbria, Caint, a Wessex. Tafodiaith Wessex, neu Sacsoneg Orllewinol, oedd sail y ffurf lenyddol safonol yng nghyfnod diweddar yr Hen Saesneg<ref name=":2">{{Cite book|title=A History of the English Language|last=Baugh|first=Albert|publisher=Routledge & Kegan Paul|year=1951|isbn=|location=London|pages=60–83; 110–130 (Scandinavian influence).}}</ref> er y byddai ffurfiau amlycaf Saesneg Canol a Modern yn datblygu'n bennaf o dafodiaith Mersia. Dylanwadwyd yn gryf ar iaith dwyrain a gogledd Lloegr gan Hen Norseg o ganlyniad i [[Y Ddaenfro|wladychiad gan y Llychlynwyr]] o'r 9g ymlaen.
Llinell 7:
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Hen Saesneg| ]]
[[Categori:Eingl-Sacsoniaid]]
[[Categori:Hanes y Saesneg]]