Ci defaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Cŵn defaid yng Nghymru: Golygu cyffredinol (manion) using AWB
TomBach10 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 7:
 
== Cŵn defaid yng Nghymru ==
Defnyddid y bugeilgi i amddiffyn yn ogystal â rheoli'r preiddiau yn [[yr Oesoedd Canol yng Nghymru]]. Yn [[Chwedl Culhwch ac Olwen]] dywedir: "bugail a'i afaelgi blewog, oedd yn fwy na cheffyl nawmlwydd… na chollodd oen erioed heb sôn am (ddafad)". Cyn amgau tiroedd arweiniai'r cŵn y preiddiau yn y bore a'u gyrru'n ôl i gorlannau yn y prynhawn a'u gwarchod dros nos. yn yr adegau canol oesoedd swydd yr cwn defaid oedd edrych ar ol a hel yr defaid
 
Ceid sawl math o fugeilgwn Cymreig: y ci llwyd â'i gôt hirflew galed ddaeth yn boblogaidd ymysg [[porthmon|porthmyn]] i [[gyrru gwartheg|yrru defaid a gwartheg]] i Loegr; y torgoch, yng [[Canolbarth Cymru|Nghanolbarth Cymru]] yn bennaf; a'r bugeilgi mawr coch neu las. I [[gyrru gwartheg|yrru gwartheg]] defnyddiai'r [[porthmon|porthmyn]] gŵn mawr cryfion allasai gerdded ymhell ac amddiffyn eu meistr rhag lladron. Datblygwyd [[corgi|corgwn]] i sodli gwartheg i'w symud yn lleol: corgi Ceredigion yn frowngoch a gwyn, neu las a gwyn, â chynffon hir, a chorgi Penfro â chynffon fer.
Llinell 13:
Gyda dyfodiad y rheilffyrdd o'r 1840au, pan ddaeth agen gwell rheolaeth i drycio anifeiliaid, a chau tiroedd mynydd yn yr 1850au–70au pan leihaodd yr angen am fugeilio, graddol ddisodlwyd y bugeilgwn gan y [[Ci Defaid Albanaidd]] (Coli Sgotaidd). Arweiniodd [[treialon cŵn defaid]], a gychwynnwyd ym Mhrydain gan Stad Rhiwlas, [[Y Bala]], ym 1873, at boblogeiddio'r Coli Sgotaidd ymhellach ac o ganlyniad aeth y bugeilgi Cymreig yn brin erbyn hanner ola'r [[20g]]. Adferwyd diddordeb ynddynt er pan sefydlwyd y [[Cymdeithas Cŵn Defaid Cymreig|Gymdeithas Cŵn Defaid Cymreig]] ym 1997. Mae'r brîd yn amrywiol iawn o ran lliw a maint, a'r blewyn yn hir neu fyr. Maent yn gŵn mawr cryfion a nodweddir gan ddull o weithio sy'n wahanol i'r coli: nid ydynt yn setio ond yn gwasgu ar y defaid gan [[cyfarth|gyfarth]] a dal y gynffon yn uchel.
Aethpwyd â chŵn llwydion hirflew Cymreig i [[Patagonia|Batagonia]] ddiwedd y [[19g]], lle'u hadnabyddir heddiw fel y ''barboucho'' a cheir gwaed y bugeilgi Cymreig yng nghŵn defaid [[Awstralia]], y ''kelpie''.swydd yr cwn defaid yn yr canol oesoedd roedd edrych ar ol yr defaid<ref>{{Cite book|title=The Welsh Academy Encyclopaedia Of Wales|last=Lynch|first=Menna ac Peredur|publisher=university of wales 2008|year=2008|isbn=978-0-7083-1953-6|location=caerdydd|pages=220}}</ref>
 
== Cyfeiriadau ==