Telyn deires: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Mr_Roberts,_Newtown_Harpist_NLW3361216.jpg|bawd|300px|John Roberts o'r [[Y Drenewydd|Drenewydd]] - 'telynor Cymru' - yn chwarae telyn deires, tua 1875 ]]
Mae'r '''delyn deires''' yn fath o delyn sy'n defnyddio tair rhes o dannau cyfochrog yn hytrach na'r rhes sengl fwy cyffredin. Un math cyffredin yw'r '''delyn deires''' [[Cymraeg|'''Gymreig''']] ( [[Cymraeg]] : ''telyn deires'' ), a ddefnyddir heddiw yn bennaf ymhlith chwaraewyr [[Cerddoriaeth Cymru|cerddoriaeth werin]] draddodiadol [[Cerddoriaeth Cymru|Gymreig]] .
 
== Yr ''arpa tripla'' Eidalaidd ==
CrewydCrëwyd y delyn deires yn yr [[Yr Eidal|Eidal]] yn y 16g. Er mwyn galluogi'r math o chwarae cromatig oedd yn nodweddiadol o [[Cerddoriaeth y Dadeni|gerddoriaeth y Dadeni diweddar]] , ychwanegwyd ail res o linynnau sy'n cynnwys y raddfa bentatonig (yr hapnodau) yn gyfochrog â'r rhes gyntaf, a oedd yn cynnwys y raddfa diatonig. Enw'r telynau hyn oedd ''arpa doppia'' neu delyn ddwyres ac roedden nhw'n ei gwneud yn bosibl i chwarae'r delyn yn gyfan gwbl gromatig am y tro cyntaf yn ei hanes. Yn ddiweddarach, ychwanegwyd ail res ddiatonig o linynnau yr ochr arall i'r rhes bentatonig, gan greu'r ''arpa tripla'' neu'r delyn deires. Telynau dwyres a theires oedd fwyaf cyffredin drwy gydol cyfnod y [[Cerddoriaeth faróc|Baróc]] yn yr Eidal, Sbaen a Ffrainc ac fe'u defnyddiwyd fel offerynnau unigol a continwocontinwa.
 
Yr enwocaf o'r telynau teires Eidalaidd sydd wedi goroesi yw telyn Barberini. CrewydCrëwyd yr offeryn rhwng 1605 a 1620 ar gyfer y teulu Barberini ac fe'i chwaraewyd gan Marco Marazzoli.<ref>{{Cite web|url=http://museostrumentimusicali.beniculturali.it/index.php?en/129/the-barberini-harp|title=The Barberini Harp|date=2016-01-22|access-date=2018-03-15|website=National Museum of Musical Instruments|last=|first=|language=en}}</ref> Mae ganddi le amlwg yn narlun Giovanni Lanfranco o ''Fenws yn chwarae'r delyn'' .
 
==<u>Y delyn deires Gymreig</u>==
Dywedir i'r delyn deires gael ei mabwysiadu gyntaf gan delynorion [[Cymru|Cymreig]] a oedd yn byw yn Llundain yn yr 17g. Cymaint oedd poblogrwydd yr offeryn fel iddi ddod i gael ei galw'n "delyn Gymreig" erbyn dechrau'r 18g. Charles Evans yw'r cyntaf i'w ddisgrifio fel telynor teires. Fe'i penodwyd yn delynor i'r llys brenhinol yn 1660, ar adeg pan oedd y delyn deires yn cael ei galw'n y delyn Eidalaidd.
 
Llinell 32:
Mae rhai chwaraewyr y tu hwnt i Gymru yn chwarae'r offeryn hefyd, gan gynnwys Maria Christina Cleary, <ref>{{Cite web|url=https://www.arparla.it/en/about/maria-christina/|title=Maria Christina Cleary|date=2018|publisher=ArParla}}</ref> Cheryl Ann Fulton , Frances Kelly, Mike Parker, Robin Ward a Fiona Katie Roberts.
 
Mae cyfansoddwyr modern wedi dangos diddordeb yn y delyn deires. Mae Richard Barrett wedi cynnwys yr offeryn yn yr ensemble amrywiol yn ei waith amlrannogaml-rannog, ''Construction''.
 
== Cyfeiriadau ==