Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: fr:Augusta Hall |
manion, categoriau |
||
Llinell 1:
Noddwraig y celfyddydau, y diwylliant gwerin a'r iaith Gymraeg oedd '''Augusta Hall, Arglwyddes
Ganed hi yn [[Llanofer]], gerllaw [[Y Fenni]] yn [[Sir Fynwy]], yn ferch ieuengaf Benjamin Waddington, Ty Uchaf, Llanofer a'i wraig Georgina Port. Yn 1823, priododd [[Benjamin Hall, Barwn 1af Llanover|Benjamin Hall]], priodas a unodd ei ystad ef yn Abercarn a'i hystad hi yn Llanofer.
Roedd gan Arglwyddes Llanover ddiddordeb mawr mewn astudiaethau Celtaidd, a dylanwadwyd arni gan [[Thomas Price (Carnhuanawc)]] wedi iddi ei gyfarfod mewn eisteddfod leol yn [[1826]]. Dysgodd Carnhuanawc Gymraeg iddi, a chymerodd yr enw barddol "Gwenynen Gwent". Daeth yn aelod cynnar o gymdeithas Cymreigyddion Y Fenni. Yn Eisteddfod Caerdydd [[1834]], enillodd y wobr gyntaf am draethawd ''Advantages resulting from the Preservation of the Welsh language and National Costume of Wales''. Roedd ganddi ddiddordeb arbennig yn y wisg Gymreig draddodiadol a hi a fu'n gyfrifol yn bennaf am ddyfeisio'r 'wisg genedlaethol' gyfarwydd gyda'i chlogyn goch a'r het dal ddu.
Yn [[1850]], cynorthwyodd i sefydlu ''[[Y Gymraes]]'', y cylchgrawn cyntaf i ferched yn Gymraeg. Cyhoeddodd lyfr ar goginio traddodiadol Cymreig, ac roedd ganddi ddiddordeb yn y [[Telyn|
Roedd hefyd yn cefnogi'r Mudiad Dirwest, a chaeodd bob tafarn ar ei hystad.
{{DEFAULTSORT:Hall, Augusta}}
[[Categori:Genedigaethau 1802
[[Categori:Marwolaethau 1896
[[Categori:Diwylliant gwerin Cymru]]
[[Categori:Hanes Cymru]]
[[Categori:Pobl o Sir Fynwy]]
[[en:Augusta Hall, Baroness Llanover]]
|