Cymdeithas Cymreigyddion Y Fenni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
B cat
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Sefydlwyd '''Cymdeithas Cymreigyddion Y Fenni''' ar yr [[2 Tachwedd|ail o Dachwedd]], [[1833]], yn y ''Sun Inn'' yn [[Y Fenni]], [[Sir Fynwy]].
 
Fe sefydlwyd Cymdeithas Cymreigyddion y Fenni yn "yn Nhŷ Mr. Ioan Michell, yn arwydd yr Haul" (sef y "Coach and Horses" erbyn hyn), Stryd y Groes ar Dachwedd 22, 1833. Rhyw ddwsin o fasnachwyr a siopwyr y dref, un cyfreithiwr a dyrnaid o glerigwyr a fu'n bresennol yn y cyfarfod cyntaf. Credent y byddai sefydlu cymdeithas o'r fath:
Dewiswyd y swyddogion canlynol:
:Llywydd - Y Parch [[John Evans]] ficer [[Llanofer]]
:Is-Lywydd [[William Price]], cyfreithiwr yn Y Fennni
:Ysgrifennydd [[Thomas Bevan]]
:Eraill - [[T. E. Watkins]] bardd, [[Eiddil Ifor]]
 
o fuddioldeb nid yn unig i drigolion y Dref ond hefyd i breswylwyr ymylon mynyddau Mynwy.
Amcan y gymdeithas oedd rhoi cyfle i'r aelodau gymdeithasu yn y [[Gymraeg]] ac i hybu'r Gymraeg. Ymhlith rheolau'r gymdeithas oedd rheol yn mynnu bod pob ymddiddan ac araith barhaol i fod yn y Gymraeg yn unig.
Mae amcanion y gymdeithas yn hollol eglur yn y cofnodion:
 
coleddiad yr Iaith Gymmraeg trwy wneud casgliad o Lyfrau Cymmraeg a rhoddi gwobrwyau am areithiau, traethodau a thraethawdlau, yn Gymmraeg
Yn fuan iawn daeth rhai o foneddigion yr ardal yn aelodau gan gynnwys Sir Charles Morgan, [[Tredegar]] a Mr a Mrs Benjamin Hall a mam Mrs Hall, Mrs Waddington, a Lady Coffin Greenly o Titley Court, [[Henffordd]]. Un arall a gafodd groeso mawr gan y gymdeithas oedd Y Parch [[Thomas Price]] neu fel yr adnabyddir ef hyd heddiw sef [[Carnhuanawc]].
 
At yr amcanion clodwiw hyn, ychwanegwyd sefydlu cyfundrefn addysg Gymraeg i holl blant Cymru. Mabwysiadwyd un rheol syml ar gyfer gweithgareddau'r gymdeithas newydd-anedig - a hynny fwy na chanrif cyn rheol Gymraeg yr Eisteddfod Genedlaethol - sef:
 
Fod i bob ymddiddan neu lafariad parhaus gael eu dwyn ymlaen yn yr Iaith Gymmraeg yn unig.
Dylid cadw mewn golwg y ffaith mai Cymry Cymraeg oedd trigolion y Fenni a'r cylch ym 1833. Mae'n amlwg o gynnwys cofnodion a gweithgareddau’r Cymreigyddion fod y mwyafrif llethol o'r bobl leol yn defnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau beunyddiol. Yr oedd yr elfen Saesneg yn cynyddu trwy'r amser, wrth gwrs - a hynny er mawr bryder i'r Cymreigyddion.
 
Mae'n debyg mai dau ŵr lleol - Thomas Watkins (Eiddil Ifor) a Thomas Bevan (Caradawc) - oedd yn gyfrifol am sefydlu’r gymdeithas. Cafodd Thomas Watkins ei eni yng Nghwm Llanwenarth rhyw dair milltir i'r gorllewin o'r Fenni. Gweithiai fel "weigher" yng Ngwaith Haearn Cwm Celyn ym Mlaenau Gwent. Yn y cyfarfod cyntaf, fe'i penodwyd yn fardd y gymdeithas. Thomas Bevan, siopwr yng Ngwaith Haearn Clydach, oedd ysgrifennydd cyntaf y gymdeithas o 1833 i 1839 a Ioan Michell, perchennog yr Haul, oedd y trysorydd cyntaf. Dyma'r fath o bobl a lywiai'r gymdeithas yn y dyddiau cynnar.
 
Ar frig rhestr aelodaeth y cyw-Gymreigyddion, rhoddwyd enw Thomas Price (1787-1848), ficer Cwm Du, fel arwydd o edmygedd unfrydol ei gyd-aelodau tuag ato. Fe'i hadwaenid yn well wrth ei enw barddol "Carnhuanawc". Fel un o ysgolheigion Celtaidd mwyaf blaenllaw ei oes, yr oedd yn gyfrannwr cyson i gyfnodolion a chylchgronau Cymraeg. Ymddangosodd ei gyfres gyntaf o erthyglau ar gyfer Seren Gomer ym 1824. Cyhoeddodd ei waith enwocaf - Hanes Cymru - rhwng 1836 a 1842 yn swmp o gyfrol o 800 o dudalennau. Mae'n anodd credu mai'r gyfrol hon oedd yr unig hanes cynhwysfawr a gyhoeddwyd yn y Gymraeg mewn un gyfrol tan ymddangosiad gwaith ardderchog John Davies (a adwaenir yn Fenni, gyda llaw, fel John Davies Hanes Cymru).
 
Yn bleidiwr tanbaid dros y Gymraeg a'i diwylliant, yr oedd buddiannau'r werin wastad yn agos at galon Carnhuanawc. Efe oedd y cyntaf i sylweddoli a datgan yn gyhoeddus mai'r bobl gyffredin oedd cynheiliaid pwysicaf yr iaith a'i diwylliant. Bu'n dadlau am flynyddoedd am addysg trwy gyfrwng y Gymraeg i blant Cymru a sefydlodd ysgol Gymraeg yn y Gelli Felen, Clydach, ar ei gost ei hun ym 1820. Fel deon rhan o dde Brycheiniog, mynnai fod y clerigwyr o dan ei awdurdod yn gweinidogaethu i'w plwyfolion yn eu mamiaith. Bu hefyd yn hallt iawn ei feirniadaeth o'r modd y cynhelid oedfaon yn Saesneg er cyfleuster ychydig gyfoethogion ac ar yr arfer o roi esgobaethau a bywoliaethau i ddynion na fedrent y Gymraeg.
 
O ddyddiau'i ieuenctid, bu ganddo ddiddordeb angerddol yn y delyn deir-rhes ac efe oedd yn gyfrifol am sefydlu'r Welsh Minstrelsy Society. Fe agorwyd ysgol ar gyfer telynorion dall yn Aberhonddu fel canlyniad. Canu 'r delyn oedd un o'r ychydig ffyrdd y medrai plant dall y werin ennill unrhyw fath o fywoliaeth. Thomas Price oedd y gwir rym y tu ôl i weithgareddau Cymreigyddion y Fenni.
 
Ym 1834, cynhaliwyd y gyntaf o eisteddfodau'r gymdeithas yn neuadd yr Ysgol Ramadeg yn Sgwâr Sant Ioan . Rhwng 1833 a 1838, cynyddodd aelodaeth y gymdeithas yn aruthrol. Tyfodd hefyd faint yr eisteddfodau o saith o gystadlaethau ym 1834 i naw ar ddeugain o gystadlaethau a chant naw deg a thri o gyfansoddiadau ym 1838. Rhoddid gwobrwyon am farddoniaeth a thraethodau Cymraeg, am ganu, canu'r delyn a chystadlaethau cerddorol eraill. Tua'r cyfnod hwn y bu i Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer, ddechrau ymhél â'r gymdeithas o ddifrif - er hybu masnach wlân Cymru yn ogystal â'r Gymraeg.
 
I eisteddfod 1838 daeth carfan o Lydawyr o dan arweinyddiaeth Theodore Hersart de la Villemarque. Hwn oedd sylfaenydd mudiad rhamantaidd Llydaw ac ym 1839 cyhoeddodd gasgliad o faledi "traddodiadol" Llydaweg. Ymwelodd â Chymru a Rhydychen ym 1838/39 i lunio adroddiad ar lawysgrifau Cymraeg â chysylltiadau neu ddiddordeb Llydewig. Fe'i gwahoddwyd i'r eisteddfod gan Carnhuanawc ac yn ei araith i'r Cymreigyddion fe bwysleisiodd berthynas gref y Cymry a'r Llydawiaid. Yn ei adroddiad ar y llawysgrifau, tynnodd sylw i ddylanwad ffynonellau Cymraeg ar lenyddiaeth Hen Ffrangeg. Yr oedd Carnhuanawc a'r Cymreigyddion yn ddylanwadol iawn yn nhwf ymwybyddiaeth y Cymry a'r Llydawiaid o'u cyd-etifeddiaeth.
 
Erbyn canol y 1840au, Eisteddfod y Fenni oedd gŵyl ddiwylliannol fwyaf Cymru. Denai ymwelwyr a chystadleuwyr o lefydd mor bell â Sardinia, Denmarc, yr Almaen ac, wrth gwrs, o Lydaw. Ym 1848, bu mwy na phedwar cant o gerbydau yng ngorymdaith y gymdeithas trwy'r dref a gwelwyd golygfeydd tebyg ym 1853.
 
Ar Ionawr 14, 1854, yn hollol ddirybudd, fe ddiddymwyd y gymdeithas a daeth pen sydyn ar yr eisteddfodau. Mae'n anodd odiaeth ddarganfod y gwir reswm am y chwalfa. Ym 1848, buasai Carnhuanawc farw. Efe a fu'n symbylu a llywio'r gymdeithas o'r cychwyn cyntaf a chyda'i farwolaeth fe gollwyd, i raddau helaeth, y brwdfrydedd a'r ymroddiad a fu. Ceisiodd Arglwyddes Llanofer gynnal yr ŵyl ond bu'r baich yn ormod iddi.
 
Mor gynnar â Hydref 23, 1845, ceir nodyn mewn pensel ar ymyl tudalen y cofnodion:
 
The Death Blow to the Society was given tonight.
 
Beth a achosai'r fath anobaith mor gynnar â hyn? Odid y cawn wybod fyth, ond hoffwn gynnig un neu ddau o awgrymiadau. Yr oedd Arglwyddes Llanofer yn adnabod rhai o deuluoedd mwyaf cyfoethog a dylanwadol Llundain, yn ogystal â boneddigion Gwent a Morgannwg. Hi oedd yn gyfrifol am ddwyn perswâd arnynt i noddi'r eisteddfodau'n ariannol ac am dynnu llawer ohonynt i gylch cymdeithasol yr eisteddfodwyr. Yr oeddynt, wrth reswm, yn Saeson uniaith. Felly, fe glywid mwy a mwy o Saesneg yn Eisteddfodau'r Fenni, yn bennaf er lles y "noddwyr" pendefigaidd hyn. Mae llythyr yn Seren Gomer 1845 yn protestio'n hallt yn erbyn y sefyllfa anfoddhaol hon ac yn mynegi cryn bryder ynglŷn â dyfodol y gymdeithas ond parhau a wnaeth y dirywiad.
 
Nid eiddo'r werin bellach oedd Eisteddfodau'r Fenni ac yn y diwedd nid oedd y Gymraeg yn cael ei dyledus le ynddynt.
 
Wedi dweud hyn i gyd, ni ddylai tristyd a siom cyfnod hwyr y gymdeithas beri inni anghofio gwir faint ei chyfraniad i'r Gymraeg a'i llenyddiaeth. O'r cychwyn cyntaf, un o brif amcanion y Cymreigyddion oedd noddi pobl a sefydliadau lleol. O 1837 allan, er enghraifft, cyfrannai'r gymdeithas ddeg gini'r flwyddyn i gynnal Ysgol Rad Ddwyieithog yn Llanwenarth. Yn raddol ymehangodd ei gorwelion a tharddodd datblygiadau pwysig iawn yn ysgolheictod Cymraeg y cyfnod yn uniongyrchol o weithgarwch y gymdeithas a'i haelodau.
 
Mor gynnar â 1836, yng nghyfarfod blynyddol y Cymreigyddion, sefydlwyd yr enwog Welsh Manuscripts Society fel math o is-gangen ohoni. Aeth y Society ymlaen i gyhoeddi rhai o'r argraffiadau cyntaf o destunau Cymraeg yr Oesoedd Canol yn ogystal â gweithiau mwy enigmatig a dadleuol Iolo Morganwg. Cyhoeddiad cyntaf y Society oedd golygiad W.J.Rees o Liber Landavensis (Llyfr Llandâf) ym 1840. Fe'i dilynwyd gan Heraldic Visitations, llyfr achau'r bardd Elisabethaidd Lewys Dwnn, ym 1846 a chan yr Iolo Manuscripts (1848) a Lives of the Cambro-British Saints (1853). Cafodd y rhelyw o gyhoeddiadau'r Society - sef Y Gododin (1852), Dosparth Edeyrn Davod Aur (1856), Brut y Tywysogion (1860), Annales Cambriae (1860), Meddygon Myddfai (1861) a Barddas (1862) - eu golygu gan John Williams ab Ithel a hynny, chwedl Thomas Parry, "heb rithyn o farn na chydwybod ysgolhaig . . . nid oes erbyn hyn ddim gwerth o gwbl mewn dim a wnaeth". Gresyn i waith da'r lleill gael ei andwyo.
 
Ond heb os, cyfraniad mwyaf y Cymreigyddion at etifeddiaeth lenyddol Cymru oedd y rhan a chwaraeodd yn hanes cyfieithu a chyhoeddi'r Mabinogi. Yn ei anerchiad i'r gynulleidfa yn eisteddfod 1838 yn "Ostri Sant Siôr", dywedodd Carnhuanawc fod y gymdeithas yn eiddgar iawn ers cyfnod maith i gyhoeddi'r Mabinogi ond iddi gael ei rhwystro gan anawsterau ariannol. Yn awr, meddai, diolch yn bennaf i'r ffaith bod Arglwyddes Guest wedi mynd ati i gwblhau'r gorchwyl ar ei chost ei hun, gallai gyflwyno i sylw'r dorf ran gyntaf y gwaith gorffenedig.
 
Yr oedd Charlotte Guest wedi bod yn un o aelodau cynharaf y Cymreigyddion. Cyfieithodd gynnwys Llyfr Coch Hergest gyda chymorth John Jones Tegid a gopïodd y gwreiddiol yn Llyfrgell Coleg yr Iesu, Rhydychen. Gyda'r rhain cyhoeddodd hefyd Hanes Taliesin o ffynhonnell yn dyddio i'r 18fed ganrif ac mae'n debyg iddi gael cymorth Carnhuanawc yn y rhan honno o'r gwaith. Cyhoeddwyd yr holl waith rhwng 1838 ac 1849. Yr oedd trysor llenyddol fwyaf y Cymry wedi gweld golau dydd yn ei chrynswth am y tro cyntaf - mae'n anodd inni heddiw ddirnad holl bwysigrwydd y digwyddiad.
 
Yn y cyfamser, yr oedd casgliad Maria Jane Williams o ganeuon gwerin Morgannwg a Gwent wedi ennill y wobr gyntaf yn Eisteddfod y Fenni 1837. Yr oedd cyhoeddi'r casgliad fel yr Ancient National Airs of Gwent and Morgannwg ym 1844 yn ddatblygiad pwysig yn yr astudiaeth o gerddoriaeth a llên werin y Cymry.
 
Ym 1839, bu'r Cymreigyddion mor rhyfygus o uchelgeisiol â sefydlu pwyllgor er rhesymoli orgraff y Gymraeg! Breuddwyd gwrach ymhell o flaen ei amser, wrth gwrs. Bu'n rhaid aros tan ddechrau'r ugeinfed ganrif i weld ei gyflawni.
 
Ym 1848, enillodd fferyllydd o Ferthur Tudful o'r enw Thomas Stephens wobr y Cymreigyddion am ei draethawd hyddysg ar hanes llenyddiaeth Cymru o 1100 hyd at 1350. Fe'i cyhoeddwyd y flwyddyn ganlynol o dan y teitl Literature of the Kymry. Yr oedd Thomas Stephens ymhell o flaen ei gyfoeswyr yn ei ddulliau dadansoddol gwyddonol a gellir dadlau mai o'r gyfrol hon y tarddodd ysgolheictod beirniadol yng Nghymru.
 
Mae gan Gymdeithas Cymreigyddion y Fenni le unigryw ac anrhydeddus yn hanes llên Cymru. A dyfynnu barn Thomas Parry, bu'r gymdeithas "yn gyfrwng i gynhyrchu rhai o'r llyfrau gorau yn y ganrif ar hanes llenyddiaeth a hanes Cymru yn gyffredinol". A chan Thomas Parry, mae hynny'n ddweud go fawr!
 
Sefydlwyd [[The Welsh Manuscripts Society]] yn 1836 gan aelodau o'r Cymreigyddion fel cymdeithas hynafiaethol gyda'r amcan o gyhoeddi [[llawysgrifau Cymreig]].
 
==Gweler hefyd==