Historia Regum Britanniae: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: pt:Historia Regum Britanniae
Llinell 12:
Mae'r ail adran yn rhestr ddigon ddiflas, foel, ac anysbrydoledig ar y cyfan o frenhinoedd ffug y Brydain Geltaidd, ond mae'n cynnwys rhai hanesion difyr, wedi eu codi o draddodiad brodorol yn ôl pob tebyg, e.e. am y brenin [[Llŷr]] yn rhannu ei deyrnas rhwng ei tair merch (hanes a ddefnyddwyd gan [[William Shakespeare|Shakespeare]] yn ei ddrama ''[[King Lear]]''), a [[Dyfnwal Moelmud]] a'i feibion [[Beli]]nus a [[Brennus|Brennius]], sy'n ymladd rhyfel cartref cyn mynd yn eu blaen i ymosod ar ddinas [[Rhufain]] (seiliedig ar hanes [[Brennus]] yn cipio Rhufain yn 390 CC).
 
Daw'r llyfr yn nes at hanes go iawn wrth disgrifio glaniad [[Iwl Cesar]] ym Mhrydain a gwrthsafiad [[Caswallon|Cassibelanus]], a hefyd hanes [[CynfelinCynfelyn]] ([[Cunobelinus]], sail ''[[Cymbeline]]'' Shakespeare) ac eraill.
 
Ar ôl i'r [[Rhufeiniaid]] ymadael, daw [[Gwrtheyrn|Vortigern]] ([[Gwrtheyrn]]) i rym. Mae'n gwahodd yr [[Eingl-Sacsoniaid]] dan [[Hengist]] a [[Hors]] i'w gynorthwyo yn erbyn y [[Pictiaid]] ac eraill fel milwyr cyflog, ond codant yn ei erbyn gan ei dwyllo a lladd arweinwyr y [[Brythoniaid]] yn nos [[Brad y Cyllyll Hirion]], diolch i ystryw [[Ronwen]]. Dielir ar y Saeson gan [[Eidol]] a cheir ysbaid o atgyfnerthi dan [[Emrys|Aurelius Ambrosius]] a'i frawd [[Uthr Pendragon]], gyda chymorth y dewin [[Myrddin]]. Mae mab Uthr [[y Brenin Arthur]] yn curo'r Saeson mewn cyfres o frwydrau ac yn sefydlu [[ymerodraeth]] dros y rhan fwyaf o orllewin a gogledd Ewrop. Dyma'r Oes Aur. Mae'n para hyd pan eilw'r ymerawdwr [[Lucius Tiberius]] i Brydain dalu teyrnged i Rufain unwaith eto. Mae Arthur yn gorchyfug Lucius yng [[Gâl|Ngâl]], ond yn y cyfamser mae ei nai twyllodrus ac uchelgeisiol [[Medrawd]] yn cipio gorsedd yr Ynys Wen. Dychwela Arthur a lladd Medrawd ym mrwydr [[Camlan]], ond fe'i clwyfir yn angeuol ei hun ac mae'n cael ei gludo i [[Ynys Afallach]] ac yn trosgwlyddo'r deyrnas i'w nai [[Cystennin]].