Geometreg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf, replaced: 17eg ganrif → 17g using AWB
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎top: Manion ac ychwanegu'r Nodyn newydd (Anrhydeddau) using AWB
Llinell 3:
Y gangen o [[mathemateg|fathemateg]] sy'n ymwneud â [[siâp]], [[maint]] a [[lleoliad metrig|lleoliad]] rhifau, a nodweddion [[gofod metrig|gofod]] yw '''geometreg''' ([[Iaith Roeg|Groeg]]: ''γεωμετρία''; ''[[wikt:γῆ|geo-]]'' "daear", ''[[wikt:μέτρον|-metron]]'' "measuriad").
 
Tarddodd geometreg mewn sawl lle gwahanol drwy'r byd, yn annibynolannibynnol i'w gilydd, mewn ymgais ymarferol i ateb problemau'n ymwneud â [[hyd]], [[arwynebedd]] a [[cyfaint|chyfaint]] gyda pheth disgyblaeth gwyddonol, ffurfiol i'w gael erbyn oes [[Thales]] yn y 6g CC. Erbyn y 3g roedd [[Euclid]] wedi'u ffurfioli ymhellach a cheir ei enw o fewn isddosbarth a adnabyddir heddiw fel geometreg Euclidaidd; dyma'r safon am ganrifoedd wedi hynny.<ref>Martin J. Turner,Jonathan M. Blackledge,Patrick R. Andrews (1998). "''[http://books.google.com/books?id=oLXgFdfKp78C&pg=PA1&dq&hl=en#v=onepage&q=&f=false ''Fractal geometry in digital imaging'']''". ''Academic Press''. p.1. ISBN 0-12-703970-8</ref> Datblygodd [[Archimedes]] dechneg wych i gyfrifo arwynebedd a chyfaint yr hyn a enwir heddiw yn [[calcwlws cyfannol]] (neu integrol).<ref>Geiriadur yr Academi; Gwasg prifysgol Cymru, Caerdydd; cyhoeddwyd 1995; golygydd: Bruce Griffiths; tudalen C:193</ref> Am y pymtheg cant o flynyddoedd dilynol, defnyddiwyd llawer o'i waith i ateb problemau'n ymwneud â mapio lleoliad y sêr a'r [[planed]]au. Ystyriwyd, felly, geometreg a [[seryddiaeth]] (yn y byd clasurol) yn rhan o'r un gangen (y ''Quadrivium'') o'r saith celfyddyd bwysicaf i berson rhydd.
 
[[René Descartes]] a gyflwynodd y cysyniad o gyfesurynnau i'r astudiaeth ac ar yr un pryd datblygwyd [[algebra]]; mae'r ddau hyn yn ffurfio un o gerrig milltir pwysicaf y ddisgyblaeth gan y gellid, bellach, gynrychioli ffurfiau geometrig gyda [[ffwythiant|ffwythiannau]] a [[hafaliad]]au. Yn ei dro (yn y 17g), chwaraeodd hyn ran eithriadol o bwysig yn yr hyn a elwir yn geometreg anfeidraidd. Dangosodd geometreg perspectif, hefyd, fod llawer mwy i geometreg, fel disgyblaeth, na jyglo rhifau. Ac yn sgil hyn, datblygwyd geometreg gwrthrychau gan [[Euler]] a [[Carl Friedrich Gauss|Gauss]] gan arwain at isddosbarthiadau eraill o fewn geometreg a elwir yn [[topograffeg|dopograffi]] a [[geometreg gwahaniaethol]].