Preslav: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Daffy (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Daffy (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 4:
 
[[delwedd:Veliki Preslav.jpg|bawd|chwith|250px|Adfeilion y ddinas a'r mur caerog (wedi'i ailadeiladu)]]
Datblygwyd y ddinas gyntaf fel safle milwrol â phlas caerog gan Khan [[Omurtag]] yn hanner cyntaf y nawfed ganrif. Symudwyd y brifddinas yno yn [[893]] gan Tsar [[Simeon I, Tsar Bwlgaria|Simeon Fawr]] ar ôl gwrthryfel paganaidd yn y brifddinas flaenorol [[Pliska]], 3km i ffwrdd. Ffynnodd am gyfnod fel canolfan diwylliant llenyddol Slafonaidd, fel [[Ohrid]] yn y gorllewin. Cafodd y ddinas ei hysbeilio a'i llosgi i lawr gan luoedd Ymerodraeth Byzantium o dan yr Ymerawdwr [[Ioan I Tzimiskes]] yn [[971]]. Parhaodd ei diwygiad ar ôl hynhynny tan ymosodiad dan ddwylo'r [[Tatariaid]] yn [[1270]], pryd gadawodd y rhelyw o'r trigolion y ddinas. Heddiw mae tref fechan newydd (Veliki Preslav) yn sefyll 2km i'r gogledd io'r ddinas hanesyddol. Mae ganddi boblogaeth o dua 10,000 o drigolion.
 
{{stwbyn}}
 
{{Prifddinasoedd Bwlgaria}}