Dafydd Ddu Eryri: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
gwybodlen
Llinell 1:
{{Gwybodlen Person
[[Delwedd:Dafydd Ddu.JPG|200px|bawd|Dafydd Ddu Eryri]]
| enw =Dafydd Ddu Eryri
| delwedd =Dafydd Ddu.JPG
| maint_delwedd =250px
| pennawd =Engrafiad o'r gyfrol ''Ceinion Llenyddiaeth Gymreig'' (1876)
| enw_genedigol =David Thomas
| dyddiad_geni =1759
| man_geni =[[Waunfawr]], [[Gwynedd]]
| dyddiad_marw =30 Mawrth, 1822
| man_marw =[[Afon Cegin]], ger [[Bangor]]
| achos_marwolaeth =
| man_claddu =[[Llanrug]], [[Gwynedd]]
| cartref =
| cenedligrwydd =[[Cymry|Cymro]]
| enwau_eraill =
| enwog_am =Athro barddol i do o feirdd yn [[Arfon]]
| addysg =
| cyflogwr =
| galwedigaeth =Athro ysgol, bardd
| gweithgar =1790au - 1822
| teitl =
| cyflog =
| gwerth_net =
| taldra =
| pwysau =
| tymor =
| rhagflaenydd =
| olynydd =
| plaid =
| crefydd =
| priod =
| partner =
| plant =
| rhieni =
| perthnasau =
| llofnod =
| gwefan =
| nodiadau =
}}
Yr oedd '''David Thomas''', sy'n fwy adnabyddus dan ei [[enw barddol]] '''Dafydd Ddu Eryri''' ([[1759]] - [[30 Mawrth]], [[1822]]) yn [[bardd|fardd]] ac athro beirdd a aned yn [[Waunfawr]] yn yr hen [[Sir Gaernarfon]] ([[Gwynedd]]).
 
==Bywgraffiad==
Roedd yn fab i wehydd ac ym more ei oes bu yntau'n dilyn yr un alwedigaeth. Cafodd fymryn o addysg elfennol gan glerigwr lleol ac aeth yn athro ysgol lleol yn fuan ar ôl marwolaeth ei dad yn [[1781]]. Daeth yn ffigwr pwysig yn niwylliant ei fro a hybai safonau barddoniaeth a dysgodd lu o feirdd lleol. Treuliodd y rhan olaf o'i oes yn [[Llanrug]]. Bu farw trwy foddi yn [[Afon Cegin]] ar noson ystormus, 30 Mawrth, 1822; cafwyd hyd i'w gorff dranoeth yn ymyl i'r sarn a geisiasai groesi. Fe'i claddwyd ym mynwent [[Llanrug]] a chodwyd cofgolofn yno gan ei gymwynaswr [[Peter Bailey Williams]], person y plwyf, i nodi ei fedd.
 
==Gwaith llenyddol==
Roedd yn adnabyddus yn ei ddydd am ei [[awdl]]au, [[carol]]au a cherddi moesol a chrefyddol. Enillodd y fedal arian am ei awdl 'Rhyddid' yn [[eisteddfod]] y [[Gwyneddigion]] yn [[Llanelwy]], [[1790]]. Er nad yw o lawer o werth llenyddol mae'n mynegi'r wrthwynebiad cynnydol i [[Caethwasiaeth|gaethwasaieth]]. Enillodd dlwas arall yn eisteddfod y Gwyneddigion yn [[Llanrwst]], [[1791]]. Cyhoeddwyd detholiad o waith y bardd yn y gyfrol ''Corph y Gaingc'' yn [[1810]].
 
Llinell 10 ⟶ 50:
Creuodd gylch o ddisgyblion oedd yn cynnwys [[Robert Morris]] 'Robin Ddu Eifionydd' (c. 1767-1816), [[Elis Wyn o Wyrfai]] (1827-1895), [[Griffith Williams (Gutyn Peris)]] (1769-1838), [[William Williams (Gwilym Peris)]] (1769-1847), [[Richard Jones (Gwyndaf Eryri)]] (1785-1848), [[William Edwards (Gwilym Padarn)]] a'i fab [[Griffith Edwards (Gutyn Padarn)]], [[Owen Williams (Owain Gwyrfai)]] o Waunfawr a [[William Ellis Jones (Cawrdaf)]]. Fel "Cywion Dafydd Ddu" yr adnabyddid y beirdd hyn. Er nad oes llawer o lewyrch ar eu gwaith yn ôl safonau beirniadol heddiw bu gan y beirdd lleol hyn, llawer ohonynt yn chwarelwyr neu dyddynwyr, rôl bwysig i chwarae yn cynnal traddodiad yr eisteddfod a rheolau cerdd dafod yn y cymunedau chwarel a dyfodd yn Eryri yn y [[19eg ganrif]], yn arbennig yn ardaloedd [[Dyffryn Nantlle]] a [[Llanberis]].
 
===Ffynonellau===
*[[Charles Ashton]], ''Hanes Llenyddiaeth Gymreig, o 1650 hyd 1850'' (Lerpwl, 1893)
*[[Bedwyr Lewis Jones]], 'The Literary Awakening in Arfon and Eifionydd', ''Atlas of Caernarvonshire'' (Caernarfon, 1977)
*D. Ambrose Jones, ''Llenyddiaeth a Llenorion Cymreig y bedwaredd ganrif ar bymtheg'' (Lerpwl, 1922)
 
 
[[Categori:Beirdd Cymraeg]]
{{DEFAULTSORT:Dafydd Ddu Eryri}}
[[Categori:Llenorion Cymraeg]]
[[Categori:Genedigaethau 1759]]
[[Categori:Marwolaethau 1822]]
[[Categori:Beirdd Cymraeg]]
[[Categori:Llenorion Cymraeg]]
[[Categori:Pobl o Arfon]]