Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Pi (mathemateg)"

Ychwanegwyd 9 beit ,  2 flynedd yn ôl
dim crynodeb golygu
(Geometreg Ewclidaidd - dolen)
[[Delwedd:Pi-unrolled-720.gif|bawd|360px|bawd|dde|Pan fo diamedr cylch yn 1, ei gylchedd yw π]]
 
Mae'r [[Cysonyn|cysonyn mathemategol]] '''π''' (a sillefir hefyd fel '''pi''') yn rhif real, anghymarebol sydd yn fras yn hafal i 3.141592654 (i 9 lle degol) ac a gafodd ei enwi gan [[William Jones (mathemategydd)|William Jones]], mathemategydd o [[Gymru]]. Hwn yw'r [[cymhareb|gymhareb]] o [[cylchedd|gylchedd]] [[cylch]] i'w [[diamedr|ddiamedr]] yn ôl [[geometreg Ewclidaidd]]. Mae gan π nifer o ddefnyddiau mewn [[Mathemateg]], [[Ffiseg]] a [[Peirianneg|Pheirianneg]]. Enwau arall am π yw '''Cysonyn [[Archimedes]]''' a '''Rhif Ludolph'''. Dethlir [[Diwrnod Pi]] ar 14 Mawrth yn flynyddol.
 
== π fel llythyren ==
Gwerth π wedi ei [[blaendor (mathemateg)|flaendorri]] i 50 [[lle degol]] yw:
 
* 3.14159 26535 89793 23846 26433 83279 50288 41971 69399 37510
 
Mae cyfrifiaduron pwerus wedi cyfrifo gwerth rhifiadol π i driliwn o lefydd degol ond nid oes unrhyw batrwm syml o ddigidau wedi ei ddarganfod. Er bod modd cyfrifo π i filiynau o lefydd degol gan ddefnyddio cyfrifiaduron, dylid nodi fod gwerth wedi'i flaendorri i 39 lle degol yn ddigon cywir i gyfrifo cylchedd y [[bydysawd]] ac o fewn maint atom [[hydrogen]] o'r gwerth cywir. Pur anaml mae angen defnyddio mwy na 4 lle degol mewn gwaith gwyddonol neu ymarferol.
Dyma werth π wedi ei flaendorri i i'r 9-lle degol cyntaf: 3.141592653. Yn Gymraeg gellir creu [[cofair]] (nemonig) drwy roi llythrennau i gynrychioli pob digid: 0 Di; 1 Un; 2 Da; 3 Tr; 4 Pe; 5 Pu; 6 Ch; 7 Sa; 8 Wy; 9 Na; 10 De. Dyma'r cofair:
 
:'"Triodd unawd pêr unwaith: pur ei naws a da! Chwydodd Puw trosto!'".
 
(Tr-iodd Un-awd Pê-r Un-nwaith, Pu-r ei Na-ws a Da! Ch-wydodd Pu-w Tr-osto! sef 3-iodd 1-awd 4-r 1-nwaith, 5-r ei 9-ws a 2! 6-wydodd 5-w 3-osto!)
 
== Priodweddau ==
Mae π yn rhif anghymarebol (a hefyd yn [[rhif trosgynnol]]), ac felly mae gwerth union π yn ehangiad degol anfeidraidd, h. y. nid yw ehangiad degol π yn gorffen neu ailadrodd. Yn rhif anghymarebol, ni all π fod yn ffracsiwn, er bod 22/7 yn cael ei ddefnyddio’n gyffredinol i’w frasamcanu.
 
Profwyd ei fod yn anghymarebol ym [[1761]] gan Johann Heinrich Lambert, a'i fod yn drosgynnol gan [[Ferdinand von Lindemann]] ym [[1882]]. Dengys y ffaith fod π yn anghymarebol fod sgwario'r cylch yn amhosib.
 
Mae llechen ar fur ysgol gynradd Llanfechell, Ynys Môn, yn nodi hyn:
 
{{Dyfyniad|"I gydnabod y cysylltiad Cymreig dynodwyd 14 Mawrth yn Ddiwrnod Pai Cymru gan Lywodraeth Cymru yn 2015 i’w ddathlu yn flynyddol o hynny ymlaen.".}}
 
==Cyfeiriadau==
132

golygiad