Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Lleuad"

Ychwanegwyd 26 beit ,  2 flynedd yn ôl
dim crynodeb golygu
(→‎Geirfa: Manion ac ychwanegu'r Nodyn newydd (Anrhydeddau) using AWB)
 
:llid y gwynt yw’r lleuad goch
:y lleuad yn codi’n goch - sychder mawr a gwres y lleuad o hyd yn goch cyn storm
:lleuad goch - gwynt a glaw
 
Cleirwy 15 Chwefror 1870: "''He was ill with cold from this vicious poisonous east wind..the. The red round moon hanging over Clifford Hill. Owls hooting in the dusk across the Dingles''<ref>Dyddiadur Francis Kilvert</ref>".
 
==Geirfa==
 
*Lloergan
 
Noson golau lleuad yw "noson loergan. Mae gŵyl ''Kann al Loar'' a gynhelir yn flynyddol yn ''Landerne'' yn Llydaw yn ein harwain i ystyr ein gair. Ystyr ''Kann al Loar'' yw lleuad llawn, ''kann'' yn golygu gwyn (cymharer "bara cann", "cannu" = ''to bleach'') a ''loar'' yn golygu lloer. Fel enw ar ŵyl, mae hefyd yn chwarae ar debygrwydd kann i'r gair mwy cyfarwydd canu, sydd hefyd yn cael ei rannu rhwng y ddwy iaith - ac mae yna ddipyn o hynny yn digwydd yn yr ŵyl hefyd! (Maemae'r gair Landerne) au ar y cap, gyda chromfachyn siap gewin o leuad ar ôl yr e, yn fodd i ddangos enw'r dref LANDERNE'''landerne''' yn Llydaweg, yn ogystal a'r enw Ffrangeg LANDERNEAU'''landerneau'''. [[Delwedd:Cap yn hysbysebu gŵyl Kann al Loar, Landerne, Llydaw.jpg|bawd|Cap yn hysbysebu gŵyl Kann al Loar, Landerne, Llydaw]]
 
==Cefn gwlad==
===Cynnydd a Gwendid===
Mae hi'n goel eitha cryf hydnoed heddiw – fod y lleuad yn dylanwadu ar gyflwr pethau byw o bob math. H. y. wrth i'r lleuad gryfhau (neu dod i'w llawnder) fe fyddai'n ysgogi tyfiant ac wrth iddi leihau, neu wanio, byddai egni pethau byw yn lleihau yn ogystal. O ganlyniad, arferai ffermwyr a garddwyr gynllunio'u gwaith o amgylch y lleuad ac yn darllen Almanac Caergybi neu Almanac y Miloedd i gael dyddiadau cyflyrau'r lleuad yn fanwl bob mis.
 
Byddid yn hau yn y gerddi a'r caeau ar y cynnydd (yn chwarter cynta'r lleuad newydd os yn bosib) fel bod planhigion ifanc yn egino a thyfu a rhoddid [[iâr|ieir]] i orri fel bo'r cywion yn deor a chynyddu efo'r lleuad. Dyma'r adeg i hel planhigion meddyginiaethol hefyd fel eu bod yn fwy effeithiol. Yn ogystal byddai coed ffrwythau yn cael eu tocio a'u himpio a byddai priodasau a dîls busnes yn fwy llwyddiannus pe digwyddant pan fo'r lleuad ar gynnydd. Byddid hefyd yn lladd a halltu mochyn pan fo'r lleuad ar ei "chelder" (Morgannwg).
132

golygiad