Wy (bwyd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 59 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q93189 (translate me) |
Dim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS |
||
Llinell 13:
[[Categori:Cynnyrch anifeiliaid]]
[[Categori:Wyau|Bwyd]]
==Traddodiadau==
Roedd mynd i glapio cyn [[y Pasg]] yn arfer poblogaidd gan blant Sir Fôn, flynyddoedd yn ôl. Fel rheol roedd y plant yn cael awr neu ddwy o’r ysgol neu ddiwrnod neu ddau cyn cau’r ysgol er mwyn cael mynd i gasglu wyau ieir o gwmpas ffermydd a thyddynnod yr ardal. Defnyddid darn o bren gyda dau ddarn bach bob ochor er mwyn creu’r ‘clapar’ a phiser bach neu fasgiad gyda gwellt neu laswellt at waelod y fasgiad er mwyn cael casglu’r wyau ac i wneud yn siŵr nad oedd yr wyau yn cael eu difetha ar y ffordd.
Arferai'r plant fynd o amgylch ffermydd yr ardal gan guro drysau ac adrodd rhigwm wrth ysgwyd y clapiwr. Mae ''Clap, clap, gofyn ŵy, Hogia bach ar y plwy, Plîs ga’i ŵy?'' yn enghraifft o [[rhigwm|rigwm]] maen nhw’n parhau i ddefnyddio hyd heddiw.
Yn ôl yr arferiad byddai’r drws yn cael ei agor a’r person tu mewn i’r tŷ yn gofyn ''“A phlant bach pwy ’dach chi?”'' Ar ôl cael ateb, byddai perchennog y tŷ yn rhoi ŵy yr un i’r plant.<ref>[https://museum.wales/blog/2016-03-24/Clapio-Wyau/ National Museum Wales]</ref>
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae yna adfywiad wedi bod o ganlyniad i waith [[Menter Iaith Môn]] ar yr Ynys. Cynhelir gweithgareddau clapio wyau yn flynyddol ym mhentrefi [[Llynfaes]], [[Talwrn]], [[Rhosybol]] a [[Carreglefn|Charreglefn]]. Wyau siocled yw’r arferiad erbyn hyn, nid wyau ieir.
<gallery>
Clapio Wyau Stondin Menter Iaith Mon.jpg|Stondin Menter Iaith Môn
Clapio Wyau yn Rhosybol.jpg|Clapio Wyau yn Rhosybol
</gallery>
|