Thomas Evans (Tomos Glyn Cothi): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dileu POV
Llinell 1:
[[Gweinidog]], [[heddychaeth|heddychwr]], [[bardd]] a [[llenor Cymraeg]] o [[Sir Gaerfyrddin]] oedd '''Thomas Evans''', a adnabyddir yn aml fel '''Tomos Glyn Cothi''' ([[20 Mehefin]] [[1764]] - [[Ionawr]] [[1833]]). Roedd yn bleidiol i egwyddorion y [[Chwyldro Ffrengig]], yn un o sylfaenwr [[Undodiaeth]] yng Nghymru, yn fardd medrus ac yn awdur sawl llyfr.
 
Ganed Tomos mewn bwthyn o'r enw Capel Sant Silyn, ger pentref [[Gwernogle]], gogledd Sir Gaerfyrddin, ar 20 Mehefin 1764, yn fab i Ifan John a'i wraig a'r trydydd o'u chwech o blant. Dysgodd ddarllen aac sgwennuysgrifennu [[Cymraeg]] ar yr aelwyd a chafodd grap ar ddarllen [[Saesneg]] mewn ysgol leol cyn mynd i ysgol yn [[Abertawe]]. Dychwelodd i'w fro wedyn a dilynodd grefft gwehydd, fel ei dad.
 
Enillodd ei awydd am wybodaeth nawdd boneddigion lleol a chafodd fenthyg llyfrau gan poblbobl fel yr ysgolhaig y Dr [[Joseph Priestley]]. [[Undodiaeth|Undodiad]] oedd Priestley, a daeth Tomos i feithrin ei syniadau ef. Aeth i wasanaethu capel [[Ariaeth|Ariaidd]] [[Alltyblaca]], ger [[Llanybydder]]. Yno daeth dan ddylanwad [[Dafydd Dafis, Castell Hywel]].
 
Priododd a chafodd chwech o blant.
Llinell 9:
Dechreuodd [[pregeth|bregethu]] yn ei gartref, dan drwydded. Yn 1796 codwyd Tŷ Cwrdd Cwm Cothi ar lannau [[afon Cothi]], capel cyntaf yr [[Undodiaid Cymreig]]. Pregethodd yno a daeth ei enw yn gyfarwydd i lawer.
 
Ym mis Awst 1801, aâ llywodraeth Prydain yn dal i ofni canlyniadau'r Chwyldro Ffrengig, carcharwyd Tomos am ddwy flynedd yng ngharchar [[Caerfyrddin]] am gefnogi egwyddorion y chwyldro hwnnw. Treuliodd ei amser yno yn ysgrifennu [[geiriadur]] Saesneg-Cymraeg (cyhoeddwyd 1809).
 
Yn 1811 derbyniodd alwad i ddod yn weinidog yr Hen Dŷ Cwrdd yn [[Aberdâr]].
 
Cyhoeddodd sawl llyfr, cyfeithiadau o destunau Undodaidd Saesneg gan fwyaf. Roedd yn fardd digon dawnus hefyd a gyfansoddodd nifer o [[Canu Rhydd Cymraeg|gerddi ar y mesurau rhydd]] yn lladd ar ryfel a brenhinoedd a chlodfori rhyddid. Cyhoeddodd gasgliad o gant o [[emyn]]au at wasanaeth yr Undodiaid (1811).
 
==Cyhoeddiadau==