Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Llwybr y Gogledd"

Ychwanegwyd 2,666 beit ,  blwyddyn yn ôl
dim crynodeb golygu
(Creu disgrifiad ar wahan ar gyfer Llwybr y Gogledd, sy'n wahanol, i Lwybr Arfordir Gogledd Cymru)
Tagiau: Removed redirect
[[Delwedd:1 North Wales Path- logoWales Coast Path.gifpng|150px|bawd|LogoY llwybr 60 milltir (97 swyddogolkm)]]
 
Mae '''Llwybr y Gogledd''' yn lwybr pellter hir o tua 60 milltir sy'n rhedeg rhwng [[Prestatyn]] yn y dwyrain a [[Bangor]] yn y gorllewin. Mae'n cyd-fynd yn rhannol a [[Llwybr Arfordir Cymru]] ond wedi ei sefydlu cyn y llwybr cenedlaethol, ac mae'r llwybr hwn yn gwyro oddi ar yr arfordir i ymweld â rhannau mewndirol.
 
<gallery>
Delwedd:Bwlch Moelfre - geograph.org.uk - 232049.jpg|Ger y Moelfre rhwng Penmaenmawr a Llanfairfechan.
Delwedd:Rhos Point - geograph.org.uk - 37225.jpg|Ger [[Llandrillo-yn-Rhos]].
Delwedd:North Wales Path logo.gif|Logo swyddogol]]
</gallery>
 
==Llwybrau lleol==
Ceir nifer o lwybrau lleol, llai y gellir eu defnyddio ac sy'n cychwyn ger Llwybr yr Arfordir, er enghraifft:
#[[Bryn Euryn|Taith Bryn Euryn]]. Saif y bryncyn calchfaen hwn (Bryn Euryn) fymryn i'r gorllewin o [[Llandrillo-yn-Rhos|Landrillo-yn-Rhos]], tua milltir a hanner i'r gogledd-orllewin o [[Bae Colwyn|Fae Colwyn]]; {{gbmapping|SH832798}}. Mae'n fryn 131 medr o uchder a goronir gan [[bryngaer|fryngaer]]. Mae rhan ohono'n [[Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig]].<ref name="Conwy">[http://www.conwy.gov.uk/upload/public/attachments/465/Bryn_Eruryn_WEB_2.pdf Conwy County Council official website - Gwarchodfa natur leol BRYN EURYN ''local nature reserve''] Adalwyd 12 Awst 2013</ref> Mae cerddwyr ar y daith hon yn pasio [[Llys Euryn]], safle llys canoloesol a fu'n perthyn i ystad [[Ednyfed Fychan]], [[distain]] [[Llywelyn Fawr]].<ref name="Conwy"/> Caiff y llwybr a'r bryn eu rheoli a'u cadw gan Gwasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Conwy.<ref name="Conwy"/> Ceir dau lwybr: y naill yn cylchdroi'r copa (1 filltir o hyd) a'r llall o fewn y goedwig (1.5 filltir). Mae 26 math gwahanol o [[Glöyn byw|löyn byw]] wedi'u cofnodi ar fryn Euryn.
#[[Caerhun|Taith Caerhun]]. Cychwyn y daith hawdd hon ydy [[Tal-y-Cafn]], ar lannau [[Afon Conwy]]. Saif gweddillion ''Canovium'' ar y [[Ffordd Rufeinig Caer-Segontiwm|ffordd Rufeinig]] rhwng ''Deva'' ([[Caer]]) a ''[[Segontium]]'' ([[Caernarfon]]) ac mae defnyddiwr y llwybr yn ei basio o fewn tafliad carreg. Eir trwy Pontwgan a phentref Tyn-y-Groes ac mae'r olygfa'n cynnwys ysblander [[Dyffryn Conwy]] ac [[Eryri]] yn y pellter. Tair milltir yw ei hyd gydag estyniad 1.5 milltir i'r cerddwr diflino. Cychwyn y daith yw Tal-y-Cafn ({{gbmappingsmall|SH788717}}).
#[[Pen y Gogarth|Taith i Ben y Gogarth]]. Ceir 3 taith o [[Llandudno|Landudno]] i gopa Pen y Gogarth ac mae pob un wedi'u harwyddo'n glir. Ar y daith gellir gweld y dref, y bae, y [[Afon Menai|Fenai]] ac Eryri. Mae'r dair yn cynnwys rhannau eithaf serth. Mae "Llwybr Gerddi Heulfre" (1 filltir) yn cymryd tuag awr i'w cherdded. Yr un hyd yw'r "Llwybr Igam Ogam", eithr ei bod yn cymryd hanner awr yn hwy. 1.5 milltir yw hyd "Llwybr y Dyffryn" ac fe gymrith tua'r un hyd - awr a hanner.<ref name="Conwy2">[http://www.conwy.gov.uk/upload/public/attachments/476/Great_Orme_Summit_Trails_WEB_VERSION.pdf Gwefan Cyngor Sir Conwy - Llwybrau Copa'r Gogarth] Adalwyd 12 Awst 2013</ref>
 
==Dolen allanol==
[http://www.conwy.gov.uk/en/Resident/Leisure-sport-and-health/Coast-and-Countryside/Assets/documents/Wales-Coast-Path-North-Wales-Path-Maps.pdf Manylion Llwybr y Gogledd a Llwybr Arfordir Cymru, yn cynnwys mapiau o'r ddau]
 
 
 
 
 
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Llwybr Arfordir Cymru|Gogledd Cymru]]
 
[[Categori:Llwybrau Cymru|Arfordir Gogledd Cymru]]
[[Categori:Cludiant yng Nghonwy]]
[[Categori:Cludiant yng Ngwynedd]]