Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 89:
 
== Categoriau - creu dolenni coch ==
 
Haia Adda. Dw i ddim yn deall y rhesymeg dros droi dolenni glas yn ddolenni coch; tybed wnei di fy ngoleuo? Er enghraift, yn y golygiad [https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Categori:Hanes_Swydd_Gaerloyw&curid=127245&diff=7807204&oldid=1590147 yna] rwyt yn troi dolen las i [[Swydd Gaerloyw]] yn ddolen goch i <nowiki>{{prif-cat|Hanes Swydd Gaerloyw}}</nowiki>, nad yw'n bodoli. Ar wahan i dorri'r ddolen i'r darllenwr, sydd o ddim help iddo, wela i ddim rheswm dros hyn, oni bai dy fod yn bwriadu creu erthygl newydd ar [[Hanes Swydd Gaerloyw]] yn ystod y dyddiau nesaf. Neu a ydw i'n methu rhywbeth?
 
Yn ail, fedra i ddim deall pam wyt ti'n creu categoriau heb gynnwys / heb is-gategoriau? Yn y gorffennol rwyt wedi dileu llawer o'r rhain. Er enghraifft: [[:Categori:16eg ganrif yn yr Iseldiroedd]], sydd heb gynnwys, ac sydd a dolen goch yn arwain i nunlle. [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Llywelyn2000|sgwrs]]) 06:20, 28 Mawrth 2019 (UTC)
 
:Cwestiwn teg, gyfaill. Dwi'n bwriadu creu swp o erthyglau am hanesion siroedd Lloegr, ac hefyd gweithio trwy'r categorïau hanes i gategoreiddio erthyglau yn ôl blwyddyn, canrif, cyfnod, ayyb a llenwi'r cats gwag. Creais y categorïau newydd, er maent yn wag ar hyn o bryd, gan ei fod yn haws imi gopïo a phastio'r côd wici ar yr un pryd. —[[Defnyddiwr:Adda'r Yw|Adda'r Yw]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Adda'r Yw|sgwrs]] • [[Arbennig:Contributions/Adda'r Yw|cyfraniadau]]) 18:24, 28 Mawrth 2019 (UTC)