L'Origine du monde: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda '250px|bawd|''L'Origine du monde''. Llun a baentiwyd gan yr arlunydd Ffrengig Gustave Courbet ym 1866 yw '...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
Llun a baentiwyd gan yr arlunydd [[Ffrancod|Ffrengig]] [[Gustave Courbet]] ym 1866 yw '''''L'Origine du monde''''' ([[Ffrangeg]], yn golygu '''''Tarddiad y Byd'''''). Mae'n baentiad olew ar gynfas o organau rhyw ac abdomen dynes noeth sy'n gorwedd ar wely gyda'i choesau ar led. Mae'n un o weithiau celf [[erotig]] mwyaf adnabyddus y byd. Er 1995 mae i'w weld yn y [[Musée d'Orsay]], [[Paris]].
 
Mae'n debyg mai Joanna Hiffernan, neu "Jo", oedd y model. Roedd hi'n gariad yr artist Americanaidd [[James Whistler]], un o ddisgyblion Courbet ar y pryd. Bwriad Courbet oedd ymestyn ffiniau [[realaeth]] mewn celf ac hefyd dangos i fyny rhagrith sefydliad y cyfnod a dderbyniai erotiaeth mewn gwisg Glasurol, e.e. mewn paentiadau gan Hen Feistri ar bynciau mytholegol, ond a weithredai [[sensoriaeth]] lem yn erbyn portreadau realaidd o'r corff dynol a rhywioldeb.
 
Comisiynwyd y gwaith gan Khalil Bey, diplomydd Tyrcaidd, cyn lysgenad [[Ymerodraeth yr Otomaniaid]] yn [[Athen]] a [[Saint Petersburg]] a oedd newydd symud i [[Paris|Baris]]. Roedd yn gasglwr brwd o gelf erotig. Aeth y paentiad trwy sawl dwylo ar ôl hynny cyn mynd i'r Musée d'Orsay yn 1995.
 
Gwerthir mwy o gardiau post o'r paentiad nag o unrhyw lun arall yng nghasgliad y Musée d'Orsay, heb law ''Bal du moulin de la Galette'' gan [[Pierre-Auguste Renoir|Renoir]].<ref>[http://tls.timesonline.co.uk/article/0,,25335-2648370,00.html Timesonline.co.uk]</ref>
 
==Cyfeiriadau==