T. F. O'Rahilly: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 06:15, 13 Mai 2010
Ysgolhaig Celtaidd o Iwerddon oedd Thomas Francis O'Rahilly' neu Tomás Proinsias Ó Rathaile (1883 – 1953), yn ysgrifennu fel T.F. O'Rahilly.
Ganed ef yn Listowel, Swydd Kerry. Addysgwyd rg ym Mhrifysgol Frenhinol Iwerddon, a bu'n Athro Gwyddeleg yng Ngholeg y Drindod, Dulyn o 1919 hyd 1929, yna'n Athro Ieithoedd Celtaidd yng Ngholeg Prifysgol Corc o 1929 hyd 1935 a Choleg Prifysgol Dulyn o 1935 hyd 1941, cyn dod yn gyfarwyddwr Ysgol Astudiaethau Celtaidd y Dublin Institute for Advanced Studies o 1942 hyd 1947.
Mae O'Rahilly yn fwyaf adnabyddus am ei syniadau ynghylch hen hanes Iwerddon. Cyhoeddodd Early Irish history and mythology yn 1946, gan gynnig y syniad o bedair symudiad o fewnfudwyr Celtaidd i Iwerddon.
Roedd ei chwaer, Cecile O'Rahilly, hefyd yn ysgolhaig Celtaidd.