Mullingar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda '250px|bawd|Canol Mullingar ac Eglwys Crist Frenin. Tref yn Iwerddon yw '''Mullingar''' (Gwyddeleg: '''An Mui...'
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Christ the King Mullingar.jpg|250px|bawd|Canol Mullingar ac Eglwys Crist Frenin.]]
Tref yn [[Iwerddon]] yw '''Mullingar''' ([[Gwyddeleg]]: '''An Muileann gCearr'''), sy'n dref sirol [[Swydd Westmeath]] (''Contae na hIarmhí''), [[Gweriniaeth Iwerddon]]. Fe'i lleolir yng nghanolbarth yr ynys yn nhalaith [[Leinster]], tua 68 milltir i'r gorllewin o [[Dulyn|Ddulyn]].
 
Mae'r draffordd N4 yn mynd heibio'n agos i'r dref gan ei chysylltu â Dulyn i'r dwyrain a [[Longford]] i'r gogledd-orllewin. Ceir ffyrdd eraill sy'n cysylltu'r dref â [[Dundalk]] i'r gogledd-ddwyrain ac [[Athlone]] i'r de-orllewin.