Andrew Burnham: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: la:Andreas Burnham
Dim crynodeb golygu
Llinell 4:
| swydd=Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd
| dechrau_tymor=[[5 Mehefin]] [[2009]]
| diwedd_tymor=[[12 Mai]] [[2010]]
| prifweinidog=[[Gordon Brown]]
| rhagflaenydd=[[Alan Johnson]]
| olynydd=[[Andrew Lansley]]
| dyddiad_geni=[[7 Ionawr]] [[1970]]
| lleoliad_geni=[[Lerpwl]], [[Glannau Merswy]]
Llinell 14:
| plaid=[[Y Blaid Lafur (DU)|Llafur]]
}}
Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd ac Aelod [[SeneddTŷ'r yCyffredin (Y Deyrnas Unedig)|Tŷ'r Cyffredin]] a chyn-Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd yw '''Andrew Murray "Andy" Burnham''' (ganwyd [[7 Ionawr]] [[1970]]). Mae ef yn [[Aelod Seneddol]] [[Y Blaid Lafur (DU)|Llafur]] dros etholaeth [[Leigh (etholaeth seneddol)|Leigh]] ym [[Manceinion Fwyaf]].
 
==Bywyd Cynnar==
Ganwyd Burnham yn [[Lerpwl]]; roedd ei dad yn beiriannwr ffôn a'i fam yn dderbynnydd. Cafodd ei fagu yn Culcheth, [[Warrington]] sydd yn rhan o'r etholaeth mae ef yn cynrychioli heddiw. Yn Newton-le-Willows derbyniodd ei addysg, yn ysgol uwchradd Catholig St Aelred. Aeth ymlaen i astudio Saesneg yng [[Coleg Fitzwilliam, Caergrawnt|Ngholeg Fitzwilliam]], [[Caergrawnt]], gan ennill MA yn y pwnc. Mae Burnham yn honni iddo ymuno â'r Blaid Lafur yn 1984, pan oedd yn 14 mlwydd oed yn unig, yn ystod [[Streic y Glowyr (1984–5)|streic y glowyr]]. Ym 1994 cymerodd Burnham swydd fel ymchwiliwr i [[Tessa Jowell]], Aelod Senedd y Deyrnas Unedig a oedd yn weinidog yn yr Adran Iechyd, a pharhaodd gyda'r swydd wedi etholiad 1997. Ym 1998 cymerodd swydd fel ymgynghorwr arbennig i Chris Smith, Ysgrifennydd Gwladol dros Diwylliant, y Cyfryngau a Sbort. Dyma oedd ei swydd olaf cyn cael ei ethol i'r senedd.
 
==Aelod Senedd y DU==
Bu Burnham yn ymladd am sedd ar etholaeth Leigh, sedd ddiogel y blaid Llafur, yn etholiad cyffredinol 2001 wedi i Lawrence Cunliffe ymddeol. Enillodd Burnham fwyafrif o 16,362, a thraddododd ei araith gyntaf ar 4 Gorffennaf 2001. Rhwng 2001 a 2003 eisteddodd Burnham ar y pwyllgor Iechyd.
===Yn y Llwyodraeth===
Yn 2003 cafodd Burnham y swydd fel ysgrfennydd preifat i'r senedd dros [[David Blunkett]], a oedd yn Ysgrifennydd Cartref. Wedi ymddiswyddiad Blunkett yn 2004 cymerodd yr un swydd gyda Ruth Kelly, a oedd yn Ysgrifennydd Gwladol Addysg a Sgiliau. Enillodd ddyrchafiad i'r [[Swyddfa Gartref]] yn llywodraeth [[Tony Blair]] yn 2005 fel Gweinidog Seneddol o dan yr Ysgrifennydd Gwladol yn gyfrifol am gardiau adnabyddiaeth. Yn 2006 symudodd eto i ddod yn Weinidog Gwladol yn yr Adran Iechyd.
 
===Yn y Cabinet===
Wedi dyrchafiad [[Gordon Brown]] i ddod yn [[Prif Weinidog y DU|Brif Weinidog y DU]] yn 2007, apwyntiwyd Burnham fel Prif Ysgrifennydd i'r Trysorlys. Bu yng nghanol dadleuon wedi iddo ymosod ar adroddiad y Ceidwadwyr ar yr Economi heb ei ddarllen, ac yna yn cytuno gyda pholisi'r Ceidwadwyr i gefnogi teuluoedd trwy'r system drethi.
 
Ar ôl 6 mis yn unig yn y swydd fel Prif Ysgrifennydd i'r Trysorlys, symudodd i fod yn Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Eto, bu Burnham ymysg sawl dadl gan gynnwys pardduo cymeriad Shami Chakrabarti, cyfarwyddwraig grwp hawliau dynol Liberty. I ffwrdd o'r dadleuon, cydnabyddwyd Burnham fel gwleidydd effeithlon. Felly, yn ailgymysgiad 2009 apwyntiwyd Burnham i fod yn Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd. Yn ddiweddar mae Burnham wedi cynnig newidiadau i'r system o gynnal yr henoed ac mae ef yn gyfrifol am ymateb y llywodraeth i [[Tarddiant y Ffliw Moch H1N1 2009|ffliw'r moch]].
 
==Bywyd Personol==
Priododd Burnham Marie-France van Heel yn 2000 ar ôl cyfarfod yn y Brifysgol a threulio 11 mlynedd gyda'i gilydd. Mae Marie-France wedi gweithio fel pennaeth marchnata gyda MTV, BSkyB a Littlewoods Gaming, a bu'n gyfarwyddwraig cynllunio gyda WRG. Heddiw mae Marie-France yn gyfarwyddwraig MvH Marketing Ltd. Mae gan y ddau un mab a dwy ferch. Yn y gorffennol roedd Burnham yn Gadeirydd anrhydeddys Clwb Cynghrair Rygbi Leigh. Roedd ef yn gricedwr a phêl-droediwr dawnus fel plentyn, gan gystadlu dros Goleg Fitzwilliam yn y ddwy gamp. Mae ef yn aelod o dîm pêl-droed y blaid Lafur, "Demon Eyes", ac mae wedi cefnogi [[Everton F.C.]] ers ei blentyndod.
 
==Dolenni Allanol==
Llinell 42:
{{bocs olyniaeth| cyn= [[Lawrence Cunliffe]] | teitl=[[Aelod Seneddol]] dros [[Leigh (etholaeth seneddol)|Leigh]] | blynyddoedd=[[2001]] – presennol | ar ôl= ''deiliad'' }}
{{Teitl Dil|swydd}}
{{bocs olyniaeth | cyn = [[Alan Johnson]] | teitl = [[Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd]] | blynyddoedd = [[5 Mehefin]] [[2009]] – ''presennol''[[12 Mai]] [[2010]] | ar ôl = ''deiliad''[[Andrew Lansley]] }}
{{diwedd-bocs}}