Pontrhydyfen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
llun
Llinell 1:
[[Delwedd:Bridge at Pontrhydyfen - geograph.org.uk - 65973.jpg|250px|bawd|Hen bont Pontrhydyfen.]]
Pentref yng [[Cwm Afan|Nghwm Afan]] yw '''Pontrhydyfen''' (neu '''Pont-rhyd-y-fen'''), ar lethrau'r bryniau lle mae [[Afon Pelenna]] yn rhedeg i mewn i [[Afon Afan]]. Mae yna [[pont|bont]] amlwg yng nghanol y pentref (un o sawl pont) a adeiladwyd gan John Reynolds ym [[1825]]. Hon yw "Y Bont Fawr", a oedd ar un adeg yn dwyn [[rheilffordd]] fach dros y cwm. Yn ddiweddarach roedd yn dwyn [[camlas]] i gario dŵr i'r gwaith [[haearn]] ger ardal Penycae (Oakwood nawr).
 
I'r de i lawr Cwm Afan mae pentref [[Cwmafan]]. I'r gogledd-ddwyrain lan y cwm mae Cynonville a pharc fforest [[Afan Argoed]]. I'r gorllewin mae tref [[Castell-nedd]].
 
==Enwogion==