Margam: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso
B →‎Hanes: dolenni
Llinell 2:
 
== Hanes ==
[[Delwedd:margam.jpg|250px|bawd|[[Parc Gwledig Margam]].]]
[[Delwedd:Orendy MArgam.jpg|250px|bawd|[[Abaty Margam|Orendy Margam]]: y mwyaf yn Ewrop]]
Roedd Margam yn gymuned hynafol Gymreig ac arferai fod yn rhan o [[cwmwd|gwmwd]] [[Tir Iarll]]. Yn wreiddiol cawsai ei ddominyddu gan [[Abaty Margam]], tŷ cefnog y [[Sistersiaid]] a sefydlwyd ym 1147. Pan [[Diddymu'r mynachlogydd|ddiddymwyd yr abatai]], daeth yr abaty i feddiant y teulu Mansel a dilynwyd hwy gan eu disgynyddion benywaidd, y teulu Talbot a oedd yn gangen o deulu Iarll yr [[Amwythig]].
 
Llinell 12:
Yn wreiddiol, trigai gweithwyr y pyllau glo i ffwrdd o bentref Margam ei hun, yn fwyaf amlwg ym mhentref [[Taibach]]. Wrth i amser fynd yn ei flaen, fodd bynnag, datblygodd y plwyf i gyd i fod yn gymuned o weithwyr diwydiannol. Yn sgîl hyn, datblygodd Margam i fod yn un o faesdrefi [[Port Talbot]] ac mae'n parhau felly tan heddiw.
 
Serch hynny, nid oedd tiroedd Abaty Margam wedi eu cynnwys yn niwydiannu a threfoli Margam. Cafodd yr Abaty eu cynnwys gan y teulu Talbot yn nhiroedd eu plasdy, Castell Margam gerllaw. Difrodwyd [[Parc Gwledig Margam|Castell Margam]] yn ddifrifol ar ddiwedd yr 20fed ganrif ond mae bellach yn cael ei adnewyddu. Yn ystod y 18fed ganrif, roedd y teulu Talbot wedi adeiladu'r orendy fwyaf yn Ewrop a saif yr adeilad yno o hyd. Yng ngahnol yr 20fed ganrif, gwerthwyd holl dir y teulu Talbot ac mae'r tir hwnnw bellach yn rhan o Barc Gwledig Margam. Mae'r tir yn ymestyn dros rhyw 850 erw (340 ha) a chaiff ei reoli gan y cyngor lleol.
 
Ar ddechrau'r 20fed ganrif, daeth Margam yn gweithfeydd pwysig i [[British Steel]] a daeth y tyrrau oeri yn arwyddnod lleol. Cawsant eu dymchwel ym mis [[Tachwedd]] [[2003]] yn sgîl gor-gynhyrchu yn Ewrop.