Gruffudd ap Cynan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cat
delwedd, trefnu, llyfryddiaeth
Llinell 1:
[[Delwedd:T.Prytherch_Gruffudd_ap_Cynan.JPG|250px|bawd|'''Gruffudd ap Cynan''' yng ngharchar [[Hugh d'Avranches]] yng [[Caer|Nghaer]] (llun gan T. Prytherch, tua 1900)]]
Roedd '''Gruffudd ap Cynan''' (tua [[1055]]– - [[1137]]), tywysogyn frenin [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] o [[1081]] hyd ei farwolaeth.
 
==Cefndir==
Mae llawer o'r wybodaeth am Gruffudd yn dod o [[Hanes Gruffudd ap Cynan]], bywgraffiad a ysgrifennwyd tua [[1160]] efallai, yn ystod teyrnasiad ei fab [[Owain Gwynedd]]. Ganwyd Gruffudd yn [[Dulyn|Nulyn]] a'i fagu yn Swords gerllawger Dulyn. Yr oedd yn fab i [[Cynan ap Iago]], oedd mae'n debyg a rhywfaint o hawl i deyrnas Gwynedd. Roedd ei fam [[Ragnell]] yn ferch i [[Olaf Arnaid]], brenin [[Y Daniaid|Daniaid]] Dulyn. Yn ystod ei ymdrechion i ennill rheolaeth dros Wynedd cafodd Gruffudd lawer o gymorth o [[Iwerddon]].
 
==Trechu Trahaearn==
Glaniodd Gruffudd ar [[Ynys Môn]] yn [[1075]] gyda byddin o Iwerddon, a chyda chymorth y [[Norman]] [[Robert o Ruddlan]] llwyddodd i orchfygu [[Trahaearn ap Caradog]]. Fodd bynnag bu cweryl rhwng Gwyddelod Gruffudd a'r Cymry lleol yn [[Llŷn]] a bu gwrthryfel yno. Achubodd Trahaearn y cyfle i wrth-ymosod, a gorchfygodd Gruffudd ym [[Brwydr Bron yr Erw|mrwydr Bron yr Erw]] yr un flwyddyn a'i orfodi i ffoi i Iwerddon. Yn [[1081]] dychwelodd i Gymru gan lanio gerllaw [[Tyddewi]] a gwnaeth gynghrair gyda [[Rhys ap Tewdwr]] tywysog [[Deheubarth]]. Gyda'i gilydd enillasant fuddugoliaeth dros Trahaearn a'i gynghreiriaid ym [[Brwydr Mynydd Carn|mrwydr Mynydd Carn]].
 
==Carchar==
Yr oedd y Normaniaid yn awr yn pwyso ar Wynedd, a chymerwyd Gruffudd yn garcharor, trwy ystryw meddai ei fywgraffydd, gan [[Hugh d'Avranches, Iarll Caer]] a'i garcharu yng nghastell [[Caer]].
 
Erbyn [[1094]] yr oedd Gruffudd yn rhydd. Dywed ei fywgraffiad ei fod mewn gefynnau ym marchnad Caer pan ddaeth [[Cynwrig Hir]] ar ymweliad a'r ddinas a'i weld. Gwelodd Cynwrig ei gyfle pan oedd y bwrgeisiaid yn bwyta a chododd Gruffudd ar ei ysgwyddau a'i gario o'r ddinas. Ymosododd Gruffudd ar gestyll y Normaniaid, ac yn [[1095]] ymosododd [[William II o Loegr]] ar Wynedd, ond bu raid iddo ddychwelyd heb lwyddo i ddal Gruffudd. Yn [[1088]] ymunodd Iarll Caer gyda Hugh arall, [[Iarll Amwythig]] i geisio adennill ei diroedd yng Ngwynedd. Enciliodd Gruffudd i Fôn, ond yna bu raid iddo ffoi i Iwerddon pan gafodd y llynges yr oedd wedi ei chyflogi gan Ddaniaid Iwerddon well cynnig gan y Normaniaid a throi yn ei erbyn. Newidiwyd y sefyllfa pan gyrhaeddodd llynges dan arweiniad Brenin [[Norwy]], [[Magnus III o Norwy|Magnus III]], a ymosododd ar y Normaniaid a lladd Hugh o Amwythig ger rhan ddwyreiniol [[Afon Menai]]. Gadawodd y Normaniad yr ynys, a'r flwyddyn ganlynol dychwelodd Gruffudd i gymeryd meddiant.
 
==Trechu'r Normaniaid==
Ymosododd Gruffudd ar gestyll y Normaniaid, ac yn [[1095]] ymosododd [[William II o Loegr]] ar Wynedd, ond bu raid iddo ddychwelyd heb lwyddo i ddal Gruffudd. Yn [[1088]] ymunodd Iarll Caer gyda Hugh arall, [[Iarll Amwythig]] i geisio adennill ei diroedd yng Ngwynedd. Enciliodd Gruffudd i Fôn, ond yna bu raid iddo ffoi i Iwerddon pan gafodd y llynges yr oedd wedi ei chyflogi gan Ddaniaid Iwerddon well cynnig gan y Normaniaid a throi yn ei erbyn. Newidiwyd y sefyllfa pan gyrhaeddodd llynges dan arweiniad Brenin [[Norwy]], [[Magnus III o Norwy|Magnus III]], a ymosododd ar y Normaniaid a lladd Hugh o Amwythig ger rhan ddwyreiniol [[Afon Menai]]. Gadawodd y Normaniad yr ynys, a'r flwyddyn ganlynol dychwelodd Gruffudd i gymeryd meddiant.
 
==Adfer Gwynedd==
Gyda marwolaeth yr Iarll Hugh o Gaer yn [[1101]] gallai Gruffudd sefydlu ei afael ar Wynedd. Erbyn [[1114]] yr oedd yn ddigon nerthol i beri i'r brenin [[Harri I, brenin Lloegr|Harri I]] ymosod ar Wynedd gyda thair byddin, un yn cael ei harwain gan [[Alexander I o'r Alban|Alexander I]], brenin yr Alban. Bu raid i Gruffudd ymostwng i'r brenin a thalu dirwy, ond ni chollodd ddim o'i diroedd.Erbyn tua [[1118]] yr oedd Gruffudd yn rhy hen i arwain mewn rhyfel ei hun, ond gallodd ei feibion [[Cadwallon ap Gruffudd]], [[Owain Gwynedd]] ac yn ddiweddarach [[Cadwaladr ap Gruffudd]], ymestyn ffiniau Gwynedd ymhell i'r dwyrain. Yn [[1136]] enillodd Owain a Chadwaladr gyda [[Gruffydd ap Rhys]] tywysog [[Deheubarth]] fuddugoliaeth fawr dros y Normaniaid ym [[Brwydr Crug Mawr|mrwydr Crug Mawr]], ger [[Aberteifi]], a meddiannu [[Ceredigion]].
 
==Y beirdd==
[[Meilyr Brydydd]] oedd [[pencerdd]] llys Gruffudd ap Cynan. Canodd [[marwnad|farwnad]] nodedig iddo.
 
==Llyfryddiaeth==
*V. Eirwen Davies, ''Gruffudd ap Cynan'' (Cyfres Ddwyieithog Gŵyl Ddewi, Caerdydd, 1959)
 
==Gweler hefyd==
*[[Hanes Gruffudd ap Cynan]]