Ystrad Clud: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: gl:Reino de Strathclyde
y diwedd
Llinell 6:
Nid oes sicrwydd ymhle'r oedd ffiniau'r deyrnas, ond mae'n debyg ei bod yn ymestyn o ardal [[Loch Lomond]], ar hyd dyffryn [[Afon Clyde]] ac i'r de at ardal [[Aeron]] (o gwmpas [[Ayr]] heddiw). Cofnodir i "Coroticus" ([[Ceredig, brenin Alt Clut]]) dderbyn llythyr gan [[Sant Padrig]]. Disgynnydd iddo ef oedd [[Rhydderch Hael]], oedd yn cydoesi ag [[Urien Rheged]]. Yn [[642]], cofnodir i Frythoniaid Alt Clut dan [[Owain I, brenin Alt Clut|Owain I]], mab [[Beli I, brenin Alt Clut|Beli I]] orchfygu byddin [[Dál Riata]] a lladd eu brenin, [[Dyfnwal Frych]] (Domnall Brecc). Ymgorfforwyd pennill yn dathlu'r fuddugoliaeth yma yn nhestun ''[[Y Gododdin]]''.
 
Cofnodir anrheithio Allt Clud gan [[Llychlynwyr|Lychlynwyr]] [[Dulyn]] yn [[870]]. Yn ddiweddarach meddiannwyd y diriogaeth gan [[Teyrnas Alba|Deyrnas Alba]] a daeth yn rhan o Deyrnas yr Alban. Efallai i annibyniaeth Ystrad Clud ddod i ben ar farwolaeth [[Owain II, brenin Ystrad Clud|Owain II]] (Owain Foel) yn [[1018]].
 
Cyhoeddwyd yr efengyl yn Ystrad Clud gan Sant [[Cyndeyrn]], a sefydlodd fynachlog ar y safle a dyfodd i fod yn ddinas [[Glasgow]]. Yn ôl un fuchedd, ganwyd [[Gildas]] yn ''Arecluta'' (Ystrad Clud).
 
==Diwedd Ystrad Clud==
Credir i [[Edmund I, brenin Lloegr]] orchfygu'r ardal yn [[945]] gyda chymorth gwŷr [[Dyfed]]. Yn ôl ffynhonnell arall, fodd bynnag, daeth annibyniaeth Ystrad Clud i ben ar farwolaeth [[Owain II, brenin Ystrad Clud|Owain II]] (Owain Foel) yn [[1018]].
 
==Llyfryddiaeth==