Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Aberogwr"

Ychwanegwyd 85 beit ,  10 o flynyddoedd yn ôl
llun
B (robot yn ychwanegu: br:Aberogwr)
(llun)
[[Delwedd:Ogmore by Sea - geograph.org.uk - 99637.jpg|250px|bawd|Aberogwr o'r traeth.]]
Pentref glan-môr ar arfordir [[Bro Morgannwg]] yn ne [[Cymru]] yw '''Aberogwr''' ([[Saesneg]]: ''Ogmore-by-Sea''). Gorwedd tua 3 milltir i'r de o dref [[Pen-y-bont ar Ogwr]] ger [[aber]] yr [[afon Ogwr]] ym [[Môr Hafren]].
 
Mae'r traeth, sy'n dywodlyd pan fo'r llanw allan, yn cynnig golygfa dros [[CraigGraig y Sger]] allan yn y môr ac i arfordir [[Dyfnaint]] a [[Gwlad yr Haf]] ar dywydd braf. Ar ochr arall yr aber gellir gweld tywynod [[Merthyr Mawr]]. Mae'r arfordir creigiog yn atynnu dringwyr a cheir nifer o [[ffosil]]au yn y graig.
 
Bu'r arfordir hwn yn ddrwgenwog am longdrylliadau yn y gorffennol. Aeth nifer o longau i ddinistr ar Graig y Sger, crib isel o gerrig ysgythrog a orchuddir gan y môr pan fo'r llanw i mewn. Ar un adeg bu Aberogwr yn un o'r llefydd yng Nghymru lle arferai rhai o'r trigolion gamarwain llongau trwy chwifio llusernau a'u harwain felly i longdryllio ar y cregiau er mwyn eu hysbeilio.
 
 
{{Trefi Bro Morgannwg}}