Cerdded: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
Gellir diffinio '''cerdded''' fel 'symud ar ddau droed' ond yn gymharol araf, heb [[rhedeg|redeg]]. Dywedir yn aml mai cerdded yw'r dull cynharaf a symlaf o [[teithio|deithio]] gan fodau dynol. Cyn dyfodiad y [[rheilffordd]] a rhwydweithiau cludiant cerdded oedd y dull cyffredin o symud o le i le.
 
Mae rhai [[anifail|anifeiliaid]] yn medru cerdded hefyd, fel y [[tsimpansi]] er enghraifft, ond dim ond [[Bod dynol|pobl]] sy'n medru cerdded yn dalsyth ar ddau droed.
 
Erbyn hyn mae cerdded - sef 'mynd am dro' - yn ffordd boblogaidd o dreulio oriau [[hamdden]]. Mewn rhai glwedydd ceir [[llwybr cyhoeddus|llwybrau cyhoeddus]] a llwybrau pellder hir arbennig fel [[Llwybr Glyndŵr]] yng Nghymru.