Taeog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 5:
==Taeogion yng Nghymru==
Yng Nghymru, nodir yng [[Cyfraith Hywel|Nghyfraith Hywel]] fod tri dosbarth mewn cymdeithas: y brenin, y breyr (y tirfeddiannwr rhydd) a'r taeog. Nid oedd y taeog heb hawliau cyfreithiol, ond roeddynt yn llai na hawliau'r ddau ddosbarth arall. Er enghraifft, yn ôl Cyfraith Hywel roedd [[sarhad]] taeog yn llai, ac roedd rhai crefftau na allai taeog ei dysgu i'w fab heb ganiatad ei arglwydd, sef gofaniaeth, ysgolheictod a barddoniaeth, oherwydd roedd unrhyw un oedd yn dilyn y swyddogaethau hynny yn ŵr rhydd. Gelwid tref o daeogion yng ngwasanaeth yr arglwydd neu dywysog lleol yn faerdref. Dechreuodd y drefn ddadfeilio oherwydd effeithiau'r [[Pla Du]] yn y [[14g]], pan achubodd llawer o daeogion ar y cyfle i adael y tir.
 
==Taeog mewn Diwylliant Gymraeg==
Mae'r term "taeog" yn cael ei arddel mewn diwylliant Gymraeg fel term o sarhâd ac yn arbennig at agwedd wasaidd at y wladwriaeth Brydeinig neu'r iaith Saesneg.
 
Defnyddia [[Dafydd Iwan]] y term yn ei gân enwog, [[Yma o Hyd]]<ref>https://www.youtube.com/watch?v=ZpaYJT-5MHc</ref> lle cenir
<poem>
:Chwythed y gwynt o'r Dwyrain
:Rhued y storm o'r môr
:Hollted y mellt yr wybren
:A gwaedded y daran encôr
:Llifed dagrau'r gwangalon
:A llyfed '''y taeog''' y llawr
:Er dued yw'r fagddu o'n cwmpas
:Ry'n ni'n barod am doriad y wawr!<ref>https://genius.com/Dafydd-iwan-yma-o-hyd-lyrics </ref>
</poem>
 
==Term mewn Gemau==