Mellten: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 17:
 
==Digwyddiad unigol==
;Mellten farwol y Feidiog</br>
Nid yw Tachwedd yn nodedig am dywydd da ar y gorau, ryw fis llaith a niwlog yn ôl traddodiad, ond am hanner awr wedi un yn y pnawn ar yr 8fed o Dachwedd 1882 bu i natur ddangos ei hochr dinistriol a didostur trwy storm o fellt a tharanau ofnadwy allai neb gofio mo’i thebyg erioed o’r blaen. Cymaint oedd ffyrnigrwydd y storm fel i Edward Morris, bugail Dol Moch, alw yn Feidiog Isa’ i lochesu rhag y tywydd dychrynllyd. Croesawyd ef i mewn gan feistr y tŷ sef David Jones, yr hwn fyddai’n rhaid wynebu profedigaeth fwyaf ei fywyd mewn ychydig funudau. ‘Roedd ei wraig, Gwen, wedi mynd ar neges i’r pentre’ gyda’i chymydog, Ann Williams, Dol Mynach, a hynny y tro cyntaf iddi adael y tŷ ers misoedd oherwydd gwaeledd.</br>
Tŷ wedi ei adeiladu gyda’r simdde yn y canol ydoedd, ffordd effeithiol iawn o rannu gwres i bob ystafell. Yn ôl y sôn, ar y pryd, ‘roedd David Jones ac Edward Morris wrth ffenestr y talcen, Lizzie, y ferch wrth fwrdd gyferbyn â’r ffenestr ffrynt, wrth yr aelwyd ‘roedd y ddau fachgen ieuengaf a’r mab arall gyda’i dad. Dyma’r olygfa yn nrama greulon natur, pan, mewn tariad amrant chwalodd y simdde’n deilchion a dod a llawr y llofft i lawr gydag ef a chladdu’r ddau fachgen ieuengaf o dan bentwr pedair troedfedd a hanner o rwbel. Taflwyd Lizzie i ochr arall yr ystafell a’i haelodau yn sownd yn y malurion a’i phen wrth ymyl ci Edward Morris a oedd yn farw wrth y dreser - ond yn rhyfeddol ‘roedd Lizzie’n fyw! ‘Roedd ei brawd deg oed, David, hefyd ar lawr gyda llosgiadau trwm arno. Y cymydog, Edward Morris, wedi ei frawychu mor ofnadwy nes iddo fethu canolbwyntio na gwneud dim - ei wallt, locsen a’i ddwylo wedi llosgi’n ddifrifol. ‘Roedd David Jones, y tad, yn ffodus i ddianc gyda dim ond ychydig ddeifio i’w wallt.</br>